Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Story of Denbighshire through its Castles, gan Frank Price Jones. Cyhoeddedig gan Bwyllgor Addysg Sir Ddinbych. 5/ Siaced Fraith, gan Elizabeth Williams. Gwasg Aberystwyth. 5/ Ffenomenon amlwg yng Nghymru, er y rhyfel, yw'r diddordeb a gymerir mewn hanes, cenedlaethol a lleol. Y mae'r llyfr cyntaf yn ffrwyth y diddordeb hwn, ac ar yr un pryd yn swmbwl iddo gynyddu. Amcan y llyfr, fel y dywaid yr awdur yn ei ragair, yw adrodd hanes Sir Ddinbych a Chymru yngyffredinol,[trwy gymrydy Gwer- sylloedd a'r Cestyll a geir yn y sir fel man cychwyn. Mewn deuddeg pennod ceir cipolwg ar hanes y sir o Gyn-hanes hyd amser Cromwell. Anfantais pennaf y method hwn yw nad oes, a bod yn hollol gywir, hanes i Sir Ddinbych ar wahân i Wynedd neu Gymru, neu Brydain os mynnwch. Cydnebydd yr awdur hyn trwy roi rhybudd ar y dechrau mai camamseriad yw sôn am Sir Ddinbych yn y cyfnod hwn. Ond, fel y gellid disgwyl, llwyddodd Frank Price Jones i drechu'r anhawster, a theimlwn ar ôl darllen y llyfr drwyddo ei fod wedi gwneud Sir Ddinbych yn uned real ag iddi ei hanes ei hun. Yn naturiol iawn, llwydda'r awdur orau yn y penodau ar ôl y Rhufeiniaid. Tueddir i or-symleiddio ac i gyflredinoli yn y penodau ar yr Hill Forts a'r Roman Occupation Gwn, wrth gwrs, ei bod yn anodd gwneud dim arall, a chofiaf mai i blant y darparwyd y llyfr. Ond nid oes yr afael yn y penodau hyn a geir yn y gweddill. A cheir rhai brawddegau a rydd argraff gamarweiniol i ddarllenwyr heddiw, e.e., t. 14 "a large tribe," a t. 19 this proves that a very large number of people lived in these parts during the Early Iron Age." Gellir bod yn hollol bendant nad oedd cyfrif y boblogaeth yn Sir Ddinbych nac unrhyw ran arall o Gymru yn fawr yr adeg honno. 'Rydym wedi arfer meddwl heddiw mewn miliynau. Yn yr un modd, dylid egluro nad oes sicrwydd pendant ynglyn â rhediad y ffyrdd Rhufeinig yn y sir. Ac nid yw Parc y Meirch na Phen y Corddyn on the coast." Dychmygaf hefyd glywed protest groch o Sir Fflint fod Pen y Cloddiau yn y rhestr ar t. 20, gan nad oes ond rhan fechan iawn o'r gwersyll hwnnw yn Sir Ddinbych. ( Gallu nerthol yw cariad at fro, ond rhaid i hanesydd dagu hyd yn oed y teimlad gwych hwnnw ).