Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceir chwaneg o hanes y cymeriad hynod, ei brawd Bob, ac y mae enwau'r penodau yn siarad drostynt eu hunain, fel Yr Hen Gapel Potsiars Y Ci, y Gath a'r Iâr Sebon a Soda; a Sion Catrin. Darllenais y llyfr drwyddo ar un eisteddiad a chwarddais fwy nag unwaith nes y powliai'r dagrau o'm llygaid. Bydd llawer stori o eiddo Mrs Williams i'w chlywed ar lwyfannau ein heistedd- fodau a mannau cyffelyb o hyn ymlaen. Ar yr un pryd y mae'r llyfr hwn yn fwy na llyfr digrif a doniol. Ceir ynddo bortread eithriadol o fywyd Cymraeg a ddiflannodd fel eira llynedd, ac sydd mor ddieithr i ni heddiw â bywyd Eskimo. Drachefn a thrachefn, wrth ddarllen, rhyfeddwn nad yw'r bywyd a geir yma ddim ond newydd fynd rownd y gornel. Y fath newid mewn cyn lleied o amser !-a newid er gwell 'rwy'n sicr, y rhan fwyaf. (Os oes darllenydd o athro yn amau hynny, darllened y bennod olaf-" Diwrnod Egsam "-a thawed). Gwnaeth Mrs Williams gymwynas fawr trwy roi ar gof a chadw gymaint o hen arferion a choelion. Bydd ei llyfrau yn fwynglawdd cyfoethog i'r hanesydd cymdeithasol. Can croeso i Siaced Fraith. Os oes clwt neu ddau yn ôl gan Mrs Williams, crefaf arni fyned ati i'w gwau yn "Siaced" arall. BLEDDYN L. GRIFFITH Croeso cynnes eto i rifyn cyntaf Gwyddor Gwlad ( Tachwedd 1952 ), a gyhoeddodd Adran Amaethyddol Gymraeg Urdd Gradd- edigion Prifysgol Cymru. Ceir ysgrifau buddiol iawn ar Cig yr Ynys hon ( Richard Phillips ) a Y Pridd a'r Ddeilen Las ( R. O. Davies )-y ddau awdur o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth- a Geirfa Dechnegol helaeth ( 29 tudalen ) o dermau gwyddor gwlad. Bydd hon yn werthfawr anghyffredin, ac y mae llawer o'r termau yn hynod ddiddorol. Ond nid wyf yn deall pam y cynigir di- sychu am desiccate gall fod yn gywir, ond fe awgryma i'r meddwl y gwrthwyneb i sychu. Llywelyn Phillips yw golygydd y cylchgrawn hwn, Gwasg y Brifysgol yw'r cyhoeddwyr, a hanner coron ydyw'r pris. Ni ddywedir pa mor ami y cyhoeddir ef.