Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIFYN YR HAF At Aelodau ac Ysgrifenyddion y Canghennnau a'r Dosbarthiadau BYDD y rhan fwyaf o aelodau'r WEA yn dymuno cael pedwar rhifyn LLEUFER yn gyflawn bob blwyddyn. Y mae anawsterau ynglyn â dosbarthu RHIFYN YR HAF, gan na bydd y Dosbarthiadau yn cyfarfod y pryd hynny. Ond y mae gan y Swyddfa ym Mangor gynllun i gyfarfod â'r anhawster hwn Os bydd Ysgrifenyddion y Dosbarthiadau gystal â chymryd archebion am Rifyn yr Haf cyn diwedd Tymor y Gaeaf, a chasglu'r arian amdano, ac anfon enw a chyfeiriad pob un a'i harchebodd i'r Swyddfa- Yna fe anfonir copi o'r Rhifyn hwnnw yn rhad trwy'r post i bob un. Anfonwch at Miss J. ALLFORD, RhosUs, 33 Ffordd y Coleg, Bangor.