Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR XII.­ATGOFION Gan J. MORGAN REES Y DoSBARTHIADAU TlWTORIAL CYNTAF YN ABERYSTWYTH YN ystod haf 1913, penderfynodd Cyngor Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, gychwyn yn ystod term yr hydref arbraw newydd o gynnal Dosbarthiadau Tiwtorial. Gwnaeth hyn oher- wydd llwyddiant dau Ddosbarth Blwyddyn a oedd eisoes mewn bod yn Nolgellau ac Aberaeron. Yr oeddwn wedi dychwelyd o Ddeheudir Affrica yn gynnar ym mis Hydref y flwyddyn honno, ac yr oeddwn yn Aberystwyth pan oedd y Prifathro T. F. Roberts ac Albert Mansbridge ynghanol eu trafodaethau. Canlyniad hyn oll oedd fy mhenodi y Trefnydd-ac-Athro Amser Llawn cyntaf ar Staff Coleg Aberystwyth, ac yr oedd yn rhan o'm dyletswydd ehangu'r gwaith i ardaloedd eraill o fewn cylch y coleg. Pen- derfynwyd dechrau yn Sir Feirionnydd. Trefnwyd Cyfarfodydd Cyhoeddus mewn pedwar canolfan, sef Aberllyfenni, Abergynolwyn, Towyn ac Abermaw. Eglurwyd amcanion y mudiad yn y cyfarfodydd hyn, sef estyn addysg prifysgol i gyrraedd y dosbarth gweithiol. Cafwyd enwau nifer o fyfyrwyr ar y rhestr, ac yn gynnar ym mis Tachwedd cychwyn- nwyd pedwar o Ddosbarthiadau Tiwtorial y Brifysgol. Trodd yr arbraw yn llwyddiant mawr. Economeg oedd y pwnc a ddewis- wyd, deffrowyd brwdfrydedd mawr, yr oedd y trafodaethau ar ddiwedd y ddarlith yn fywiog ac yn drylwyr, ac ysgrifennwyd traethodau gan fwy na dau o bob tri o'r myfyrwyr a oedd â'u henwau ar y rhestr. Yn ystod y gaeaf, cyfarfûm â D. Lleufer Thomas, Tom Jones, a llawer o aelodau'r Cyngor. Yr oedd fy hen athro, W. Jenkyn Jones, yn gefnogwr cryf i'r gwaith, a rhoes lawer o gynhorthwy iddo. Y Prifathro, T. F. Roberts, oedd ysbrydiaeth y mudiad newydd, a thaniodd wyr eraill â'i frwd- frydedd ei hun i ehangu a chyfnerthu'r gwaith. Cyn diwedd mis Tachwedd yr oedd y pedwar dosbarth yn brysur ar waith. Daeth y myfyrwyr o wahanol alwedigaethau,