Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhai'n grefftwyr, rhai eraill yn siopwyr neu chwarelwyr, ac yr oedd ychydig o athrawon ysgolion ac o wragedd yn cadw tý. Cymer- wyd diddordeb neilltuol yn hanes economaidd yr ardal. Ar ddiwedd pob cyfarfod, yr oedd yn arferiad i'r athro fynd i dy rhyw un o'r myfyrwyr a chario'r drafodaeth yn ei blaen yno.. Yn y ffordd hon daeth y myfyrwyr a'r athro i adnabod ei gilydd yn dda, a chynorthwyai yntau hwynt yn eu hanawsterau wrth ysgrifennu eu traethodau, neu cyfarwyddai hwynt pa lyfrau i'w darllen. Darparai Llyfrgell Genedlaethol Cymru focsiad o lyfrau wedi eu dewis gan yr athro, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg. Yr oeddyffaith fodyr athro'n gallu treulio noswaith yngnghanol- fan pob un o'r dosbarthiadau yn fantais ychwanegol, oherwydd cryfhâi'r berthynas rhwng yr athro a'i ddosbarth. Deffrôdd y berthynas agos yma rhwng y dosbarthiadau hyn a Choleg Aber- ystwyth ddiddordeb newydd yn yr amgylchfyd a'r diwydiannau lleol. Ar ddiwedd y tymor-cyrhaeddodd i fis Mai gan fod y dos- barthiadau wedi dechrau'n ddiweddar-cynhaliwyd Rali'r Dos- barthiadau yn Aberystwyth, a thraddododd y Prifathro Roberts. anerchiad. Teimlai'r myfyrwyr i gyd eu bod yn cael ymddwyn tuag atynt fel aelodau o'r brifysgol. Oherwydd y llwyddiant a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf hon, penodwyd ail Athro Llawn Amser i weithio yn Sir Benfro, a dewis- wyd William King i ddechrau ar ei waith yn Hydref 1914. Ond daeth anawsterau'r rhyfel yn rhwystr ar y ffordd, a chaewyd y dosbarthiadau ar ddiwedd term y gwanwyn 1915. Yn 1915 gwahoddwyd fi gan Fwrdd Astudiaethau Allanol Prif- ysgol Lerpwl i fynd i Lerpwl am ddwy flynedd, i gynnal dosbarth- iadau a oedd i barhau am y tymor hwnnw am fod y lle yn ganol- fan i wneud miwnisiwns. Yr hyn a oedd yn newydd yn y mudiad ydoedd cymhwyso. dulliau'r Ysgol Sul at bynciau eraill: eglurhad, trafodaeth, a thraethawd ysgrifenedig, ac archwilio hyn oll yng ngoleuni'r gyfathrach bersonol rhwng yr athro a phob disgybl. Yn 1918, penderfynodd Cydbwyllgor Aberystwyth, gan fod y rhyfel yn debyg o fod yn tynnu i'w derfyn, ei bod. yn bryd ail- ddechrau dosbarthiadau yn Sir Benfro, ac felly dechreuais unwaith eto ar Ddosbarthiadau Tiwtorial, ond y tro hwn yn Hwlffordd,.