Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aberdaugleddau, Doc Penfro a Goodwick. Cynhaliwyd y rhain yn llwyddiannus hyd wanwyn 1919. Gadawodd llawer o bobl Ddoc Penfro ar ôl y cadoediad. Ar ddiwedd y rhyfel yr oedd cylch ehangach o lawer o bynciau y teimlai ein myfyrwyr ddiddordeb ynddynt, ac ymhlith y pync- iau a astudid ganddynt yr oedd yr Iaith Gymraeg a Llên Gymraeg, Hanes Economeg, Athroniaeth ac Astudiaethau Beiblaidd. Sefydlais gangen o'r WEA ymhob canolfan yr oedd dosbarth ynddo yn 1913, ac felly yr oedd yn ddigon hawdd ail-gychwyn dosbarthiadau yn Siroedd Meirionnydd, Aberteifi, a rhai eraill. Yr oedd y sylfeini wedi eu gosod yn ddiogel ac yn gadarn i symud ymlaen mewn cylch eang wedi 1918 mewn llawer pwnc. Gafael- odd y mudiad mewn modd arbennig yng Nghymru wledig. Yn 1920 penodwyd y Parch. Herbert Morgan yn Gyfarwyddwr y Gwaith Tu Allan ynglyn â Choleg Aberystwyth. Yr oedd Addysg Pobl mewn Oed wedi ei sefydlu'n gadarn yn Siroedd Caerfyrddin a Threfaldwyn, ac y mae'r mudiad wedi dal i fynd yn ei flaen o'r dyddiau hynny hyd yn awr. Un o'm hatgofion mwyaf pleserus ydyw ymweliadau 0. M. Edwards â'r dosbarthiadau fel Arholwr y Bwrdd Addysg. Yr oedd y gwaith hwn yn agos iawn at ei galon, a chefnogodd ac ysbrydolodd ef ymhob modd a oedd yn bosibl. Daeth y newydd am farw un o ddarllenwyr ffyddlonaf a mwyaf diwylliedig Lletjfer, sef Ben Davies, Nant Garedig. Dyma air Dyfnallt amdano yn Y Tyst: — Dyddiau cynnar, rhamantus Dosbarthau Allanol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, oedd y cyfnod: Syr O. M. Edwards yn ein cymell i gychwyn dosbarth mewn Cymraeg yng Nghaerfyrddin. Cafwyd y nifer angenrheidiol o aelodau'n ddidrafferth. Yn eu plith yr oedd amaethwr ieuanc oddi ar un o fencydd Dyffryn Tywi. Cerddai filltir a hanner i'r ffordd fawr i Bontargothi, yna, am 6 milltir ar ei geffyl haearn i Gaerfyrddin. Yr oedd yn ei ddosbarth yn brydlon bob tro drwy bob tywydd. Ar un o ymweliadau Syr Owen, cyfeiriasom at gamp y gwr ieuanc, ac meddai'r cymwynaswr mawr Byddai'n werth cynnal dosbarth yn unig er mwyn un o'i fath.' Tyfodd yn llenor dawnus, ac fe'i cymhwysodd ei hun i fod yn flaenor galluog mewn llawer cylch ym mywyd ei fro."