Skip navigation

Lleufer

 - 

Cyf. 9, rh. 4 Gaeaf 1953

Yr Affricanwr a'i dir

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
YR AFFRICANWR A'l DIR
Gan DAFYDD ORWIG JONES
(Trosiad ydyw hwn o ysgrif gan G. McJames Walters yn
Information Digest yr Africa Bureau" rhif 9, Meh.-Gorff.
1953. Geilw ei ysgrif yn Her i ail-feddwl polisi trefedigaethol."
Sefydlwyd yr Africa Bureau i gasglu ac i ledaenu gwybodaeth
am yr hyn a ddigwydd yn Affrica. Ar ei Bwyllgor Gwaith ceir
pobl fel yr Arglwydd Hemingford, yr Arglwyddes Pakenham
a'r Parch. Michael Scott. Cyfeiriad y Biwro ydyw 69, Great
Peter Street, S.W.I. Nid oes rhaid inni ei ddal yn gyfrifol am
bob gosodiad sydd yn yr ysgrif hon.)
DYFODIAD yr Ewropeaid i Affrica yw prif achos dinoethi'r
tir yno. Ni byddai dweud hyn yn beth o bwys oni bai am
y ffaith mai'r gwrthwyneb a gymerir yn ganiataol ac a ddefnyddir
i gyfreithloni estroni tir gan gau allan yr Affricaniaid. Yn
Nhŷ'r Arglwyddi, Ebrill 2, 1953, dywedodd yr Arglwydd Hudson
am y Bantw iddo fyw, cyn belled ag y gwyddem, gan gam-drin
y pridd a'i adael yn agored i'w ddinoethi, ac yna symud oddi yno.
Honnai'r Arglwydd Hudson ei fod yn siarad fel arbenigwr, a
rhoes y ddadl hon fel un cyfiawnhad o'r polisi tir y cyfeiriwyd
ato. Yn y nodyn hwn, bwriedir dangos bod y ffeithiau yn hollol
groes i'r hyn yr hoffai'r Arglwydd Hudson inni gredu, ef a'r
rhai a sieryd yn debyg iddo.
Yn ei ffurf symlaf, cyfundrefn o gylchnewid cnydau ydyw
amaethu symudol, â chylchdro weithiau o gymaint â 30 mlynedd,
a gellir ei ddisgrifio yn fyr fel cyfres o orchwylion. Yn y gyntaf,
clirir y goedwig, nid trwy ddinistrio'r coed yn gyfan gwbl, eithr
drwy eu torri nes eu bod rhwng pedair a chwe throedfedd uwch-
law'r llawr. Llosgir y coed a dorrir, gan ledaenu'r lludw dros y
mannau a gliriwyd, oherwydd prin iawn, fel rheol, ydyw pridd-
oedd y trofannau o'r potash sydd yn y lludw.
Yn yr ail gyfnod, plennir cnydau cymysg yn y mannau a
gliriwyd, gan ymyrryd cyn lleied ag y bo modd yn y pridd. Sicrha'r
cnydau hyn haen amddiffynnol o dyfiant dros y pridd ar hyd y
flwyddyn. Wedi rhyw dair neu bedair blynedd, daw lleihad yng
nghynnyrch y cnydau, a rhoir y gorau i'w hamaethu.
Yn y trydydd cyfnod, gadewir y coed i ail-dyfu, a gall y cyfnod
hwn o fraenaru gymryd rhwng 25 a 30 mlynedd. O dan y drefn
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.