Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhoes Dr. Leakey ei resymau am y farn hon, gan chwanegu Rhagora dulliau'r brodorion yn bendant ar y rhai a ddechreuodd yr Adran Amaeth, Dylasai'r Adran hon geisio gwella dulliau'r brodorion yn hytrach na gwthio dulliau newyddion arnynt. Ni wnaed yr un ymgais o bwys i ateb tystiolaeth Dr. Leakey, er bod y brodorion a'r Ewropeaid, y pryd hwnnw, yn gallu cofio'n iawn ddulliau amaethu cynhenid y wlad. Yn 1947, yn ei Note on Agricultural Problems in Kenya," sylwodd y Liywodraethwr, Syr Philip Mitchell, ar y dinoethi pridd difrifol mewn ffermydd Ewropeaidd oherwydd dulliau amaethu gwael. Gwnaeth yr un sylw yn 1950 mewn termau cryfach. Nid yw heb arwyddocâd, efallai, na thybiodd Syr Philip hi'n angenrheidiol ail-adrodd ei sylwadau ar ddinoethi'r pridd yn ei Adroddiad am 1951 ar Land and Population in East Africa," er iddo gyfaddef na chrewyd y drwg hwn gan amaethu symudol. Oherwydd y methiant i amgyftred yr amodau a orfododd amaethu symudol, a'r methiant i awgrymu gwell dulliau, a'r helbul a ddaeth yn sgil hynny, fe arweiniwyd yr awdurdodau i ddefnyddio dadl fel un yr Arglwydd Hudson. Gyda'r ddadl hon cysylltir y dat- ganiad mai o gynnydd cyflym y boblogaeth Affricanaidd y cyfyd llawer o'r anawsterau presennol. Y mae pob lIe i gredu mai di-sail hollol yw'r ddamcaniaeth hon hefyd. Rhoddir y dadleuon dros y ddamcaniaeth fod y boblogaeth frodorol yn cynyddu'n gyflym fel hyn, yn gyffredin — Y mae merched Affrica yn epilgar iawn cyn sefydlu rheolaeth Prydain, lladdwyd llawer o Aftricaniaid gan ryfeloedd llwythol, neu glefyd (yn enwedig yn eu babandod), neu newyn, a chadwodd y ffactorau hyn y boblogaeth yn isel wedi sefydlu rheolaeth Prydain fe ddilewyd rhyfela llwythol a newyn, gwellhaodd bwyd y brodorion, lleihawyd nifer y marwolaethau ymysg babanod oddi wrth afiechyd oherwydd y gwasanaethau meddygol Ewropeaidd, ac o ganlyniad i hyn oll cynyddodd y boblogaeth yn fawr iawn. Rhaid cofio nad oes nemor ddim tystiolaeth ystadegol deilwng o'r enw am y boblogaeth frodorol am unrhyw flwyddyn cyn 1947 mewn unrhyw drefedigaeth Brydeinig i'r De o'r Sahara, ac nad oes gennym wybodaeth eto am ddosbarthiad oedrannau yn y gwledydd hyn, na ffigurau am raddfeydd geni a marw, ac nad oes dulliau i gofrestru geni a marw yn yr ystyr Ewropeaidd. Y mae'n dilyn felly, os ydym am farnu gwirionedd y ddamcaniaeth, fod yn rhaid inni ystyried yn rhesymol y dystiolaeth sydd ar gael, ac ystyried hefyd y modd y dadleua cefnogwyr y ddamcaniaeth.