Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn Kenya, gwnaed cyfrifiad o ran o'r boblogaeth am y tro cyntaf yn 1948. Dangosodd fod y boblogaeth yn fwy na'r amcan. gyfrif o rywfaint oddeutu 25 y cant. Eglurodd Syr Philip Mitchell y gwahaniaeth hwn drwy ddweud mai cynnydd cyflym y boblog. aeth a'i hachosodd yn ddiamheuol." Yn yr un Adroddiad, Land and Population in East Africa, awgrymodd y gallai cynnydd y boblogaeth mewn lleoedd manteisiol gyrraedd 2 y cant y flwy. ddyn. Os derbyniwn ei eglurhad ar y gwahaniaeth, rhaid derbyn hefyd gynnydd blynyddol o dros 8 y cant. Chwedl Ewclid, ymresymiad gwrthun ydyw hwn. Er ei bod yn wir, ar y cyfan, fod rheolaeth Prydain wedi dileu rhyfeloedd llwythol a newyn, eto y mae'n eglur fod tuedd gref ers llawer blwyddyn i wneud amcangyfrif rhy uchel o'r rhai a fu farw oherwydd y ddau achos hyn, a bod hefyd resymau cryf dros gredu i safonau maeth llawer o Affricaniaid ddisgyn. Ar y llaw arall, y mae'n arwyddocaol mai'r syniad cyffredin yn yr ` ugeiniau oedd bod poblogaeth Kenya yn lleihau, a choleddwyd y gred gan Brif Swyddog Iechyd y Drefedigaeth ar y pryd. Gallai hyn fod yn gamsyniad, ond y mae'n annhebyg iawn y daliesid ef petasai'r boblogaeth yn cynyddu. Rhaid cofio hefyd i glefydau heintus a barodd lawer o farwolaethau ac anffrwythlondeb ymysg Affricaniaid ddyfod yn sgil cyfathrachu ag Ewropeaid yn y dechrau. Dengys yr astudiaeth fwyaf arwynebol o faint y gwasanaethau meddygol Prydeinig mor fychan fu eu heffaith ar nifer y marwol- aethau-cyn cyfnod y cyffuriau swlffa a phenisilin, beth bynnag. Lleihawyd hyd yn oed y gwasanaethau meddygol annigonol hyn gan ryfeloedd 1914-18 a 1939-45. Rhaid cofio hefyd y nifer echrydus o uchel o frodorion Dwyrain Affrica a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gellir dweud i hyn fod yn fwy ei ddylanwad na llawer cenhedlaeth o ryfeloedd llwythol. Fe erys i'w ystyried yr haeriad fod merched Affrica yn nodedig o epilgar, ond oddi wrth yr hyn a ddywedwyd eisoes gwelir nad oes gennym nemor ddim gwybodaeth ystadegol ar y pwnc. Y cwbl a wyddom ydyw bod y sylwedyddion Ewropeaidd cyntaf yn byw mewn cyfnod pan oedd epilgarwch merched Lloegr yn uchel, a'u bod y pryd hwnnw yn ystyried bod epilgarwch merched Affrica yn isel. Petasai'r gwyr hynny yn byw mewn cyfnod pan oedd epilgarwch merched Lloegr yn isel, buasent yn cyfrif bod epilgarwch merched Affrica yn uchel. ( Gweler Demographic 8urvey of the British Empire, Kuczinsky).