Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THOMAS GWYNN lONES Gan WILLIAM JONES. I Ym Metws Abergele Mae'r haf yn lingro'n hir, Fe geidw'r bryniau'r gaeaf draw Yn uchelderau'r Sir. Gynnau bu gwynt y Betws Yn chwalu trwchus wallt Y llanc a gafodd hyd i aur Ym manadl cloddiau'r allt- Wrth gychwyn ar ei siwrnai Hyd lwybyr glas y gerdd,. 0 hewl y Betws canfu ef Lanerchau'r Ynys Werdd. Ym Metws Abergele Caled yw pridd pob gardd-- Hen gleiog dir, ond hwn a roes. I Gymru lwyd ei bardd. II Yn Ynys Afallon 'does neb yn glaf, A rhywiog fryniau'n carcharu'r haf, Dim swn Hydrefwynt yn groch ei gri, Na charreg fedd ar ei daear hi. Cyrhaeddodd yntau i'r hafan hon A gwaed y Betws yn curo'n ei fron, Ar lannerch a erys yn fythol werdd, Çanodd ei gân, gweodd ei gerdd.