Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

KITCHENER DAVIES Gan ALUN LLYWELYN-WILLIAMS Swn y Gwynt sy'n Chwythu. Pryddest Radio J. Kitchener Davies. Gyda sylwadau gan Aneirin Talfan a Rhagair gan D. Gwenallt Jones. Gwasg Gee. 2/ WRTH gofio mor agos i'w angau y bu'r bardd yn cyfansoddi'r bryddest hon, gallwn ofni rhag i amgylchiadau trist ei chreu liwio gormod ar ein barn amdani. Ac eto, y mae'n anodd peidio â chredu mai ychydig iawn o ormodiaith sydd yn nyfarn- iad Gwenallt yn ei Ragair-fod Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu yn un o gerddi mwyaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif." Anaml iawn y cawn y fraint o groesawu cerdd hir sy'n cydio'n ddiarbed ynom ar y darlleniad cyntaf, ac a rydd inni drachefn ias o wir gyffro pan awn ati i'w darllen yr ail a'r drydedd waith. Y mae'r gwynt y bu R. Williams Parry yn ymbil cymaint ag ef yn ei gerddi haf a gaeaf yn chwythu'n rymus trwy linellau pryddest olaf Kitchener Davies. Y mae'r wedd allanol sydd i'r gerdd, ei hieithwedd a'i harddull, yn ddiddorol. Fel pryddest radio, fe'i lluniwyd i'w llefaru ac i'w gwrando â'r glust. Yn wir, fe'i lluniwyd yn gelfydd iawn i'w phwrpas, ond y mae'r pwrpas hwnnw'n ehangach na gofynion darlledu. Mae'r gerdd drwyddi yn syml ei mynegiant ac yn gwbl ddealladwy, heb ddim ond ambell air tafodieithol yma a thraw a all efallai beri anhawster, am ysbaid yn unig, i rywrai. Ar wahân i ambell gyfeiriad, at y Môr Gwydr, er enghraifft, neu at Amlyn-cyfeiriadau sy'n goleuo'r cyfarwydd heb fyth ddrysu'r anghyfarwydd-gallai'r gwr mwyaf anllenyddol ddeall y cwbl o'r bryddest, a'i gwerthfawrogi. Ymson yw'r gerdd hon, cân fyfyriol, a'r bardd yn siarad ag ef ei hun Cofia di, 'doedd dim raid iti, mwy na'r rhelyw o'th gymheiriaid, ysgrechain dy berfedd i maes ar focs sebon ar gorneli'r strydoedd a sgwarau'r dre peth i'w ddisgwyl mewn mwfller-a-chap oedd peth felly, nid peth neis mewn coler-a-thei. Wrth siarad ag ef ei hun fel hyn, llefarodd y bardd wrthym ninnau yn uniongyrchol mewn Cymraeg llafar dirodres, ac er mor ym- ddangosiadol foel a diaddurn yw ei arddull, profodd y gall gwelediad prydyddol droi'r iaith lafar yn gyfrwng barddoniaeth wiw. 'Dyw'r