Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINACHAU NATUR Gan R. E. VAUGHAN ROBERTS Cijfrinachau Natur, gan O. E. Roberts. Gwasg y Brython. 1953. 5s. Y MAE enw O. E. Roberts eisoes yn adnabyddus trwy Gymru fel awdur nifer o ysgrifau a llyfrau amheuthun ar faterion awyddonol. Gwyr darllenwyr LLEUFER yn burion am ei ddawn i wisgo gwirioneddau astrus yn ddeniadol a dealladwy. Brodor o Eifionnydd ydyw, ac ar hyn o bryd prif dechnegwr meddygol un o ysbytyau Lerpwl. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth am y casgliad o ysgrifau a gyhoeddir yn awr dan y teitl Cyfrinachau Natur." Geilw ei siaced lwch sylw parod at y gyfrol ar fwrdd y llyfr- werthwr. Un werdd ydyw, a llun mwyadur mawr, cymhleth, du a gwyn, ar ei thraws, a dau lun cynnil, llai, 0 locust a gwenynen (o bosibl, serch mai llun cacynen a welaf !). Edrychwch amdani. E. Meirion Roberts, y darluniwr hysbys, a'i cynlluniodd, a haedda ganmoliaeth am ei ddarfelydd yn canu arweingerdd megis, yn ôl pwyslais a theilyngdod y cynnwys. Gwasg y Brython a'i cyhoedda, a gwnaeth hithau yn ôl ei harfer waith glân a graenus. Xid oes dim esgeulus na chrintach i'w ganfod yn unman can tudalen o argraffu cain, gofalus, ac esmwyth i'r llygad. Y mae yn y llyfr saith o ysgrifau, a derbyniodd y casgliad ganmoliaeth uchel gan y tri beirniad dysgedig, nid am i'r awdur yn ôl un ohonynt ddewis testunau anodd ac ansathredig ond am iddo wneud hynny'n effeithiol ac yn gelfydd." Wrth ddarllen y llyfr sawlgwaith trwyddo teimlwn, a hynny'n ddyfnach bob tro, fod cryn ragor rhwng ei ddechrau a'i ddiwedd, Mewn arddull a safon ac argyhoeddiad. Cyfyd y gwahaniaeth o hosibl ó't ffaith amlwg mai ftrwyth ymchwil a phrofiad personol yw'r tair ysgrif olaf. Cruglwyth o fân wybodaethau braidd gyffwrdd sydd yn y tair ysgrif flaen, corff cryno o wybodaeth yn gafael ynom yn y tair olaf. Nid hawdd yw lleoli'r bedwaredd hwyrach mai'r peth gorau yw ei chymryd yn ddolen gydiol rhwng y cronìclau a'r proffwydi. Pwnc yr ysgrif gyntaf, Cyn bod Gwyddoniaeth," yw nad «readigaethau newyddion mo'n dyfeisiau a'n darganfyddiadau ni o gwbL Allan o hanner cant o enghreifftiau a enwir dyma