Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dynnais ei sylw at y geiriau llafar cantreg (singer), llygotreg (am gath), a llaethreg (am fuwch)-ac yn awr wele ddawns- reg Pwy a deifl garreg ? Manion, petheuach, mympwyon o bosibl, yw'r rhain oll o'u cyferbynnu â rhagoriaethau dilys y gyfrol trwyddi draw. Gwnaeth yr awdur gymwynas fawr â Chymru trwy roddi inni lyfr ysgol- heigaidd hudolus. Nid i bawb y rhoddwyd bod yn lladmerydd gwybodaeth mor ddyfnddysg na dehongli rhai o gyfrinachau Natur mewn modd a'n cymell ninnau i ddyheu am wybod rhagor. Gan WILLIAM JONES PE baet heb ddod i hyn o fyd Â'th bendil dur i fwyta f'oes, Fe ddaliwn i yn ifanc byth Pe baet heb ddod i fwyta f'oes. Dim Hydre'n tyllu to yr allt Nac atal twf y gweryd hen, Dim oriau'n dirwyn dyddiau'n fis A minnau'n dal heb fynd yn hen. Pe baet heb ddod i hyn o fyd Mi guddiwn yma fel y gwynt, Heb neb yn bwyta f'einioes i Daliwn yn ifanc fel y gwynt. Pe baet heb ddod â'th bendil dur I dipian f'einioes frau i ffwrdd, Mi fyddwn innau fel tydi Yn gomedd, gomedd mynd i ffwrdd. AMSER