Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN LAWSON PICKARD Gan J. GLYN DAVIES TTN o'r darlithwyr goreu a glywais erioed oedd Pickard. Dar- lithydd allanol oedd, mewn garddwriaeth, yn Ngholeg Aberystwyth. Daethum iw adnabod yn fuan ar ol ei benodi yn 1901, ac mewn modd nad ellid ei ddychmygu tuallan i'r Coleg hwn. Yr oeddwn newydd sefydlu'r Llyfrgell Gymraeg, a gwelais ef am y tro cyntaf yn y Llyfrgell pan oeddwn ar fedr cloi'r drysau i noswylio. Dywedodd pwy ydoedd, a'i neges, yn llafar gwlad Swydd Efrog. Tueddodd hyny fi ato, am fy mod yn gynefin ag iaith cefn gwlad blaenau Lerpwl. Ei neges oedd crefu arnaf fod yn gadeirydd iddo mewn dosbarth garddio yn Mhenllwyn, rhyw bum milldir i fyny dyffryn Rheidol. A ddown i iw gyflwyno i bobl Penllwyn, ardal hollol ddieithr iddo, ac ynteu yn estron. Yr oedd wedi gofyn i nifer o athrawon y Coleg ond gwrthod a ddarfu'r cwbl rhai yn swta a rhai am resymau wedi eu geni y munud hwnw. "I was the real reason," meddai I am not a gentleman" Yr oedd Anwyl oddicartref; ni chawsai nacad gan y gwrbonheddig hwnw. A ddown i ? Down, nen tad, meddai fi. Yr oedd cerbyd a march yn disgwyl wrth borth y Coleg, ac mi eis. Ac y mae'n dda genyf hyd heddyw fy mod wedi mynd. Cefais ddysgu beth oedd dawn darlithio cefais addysg mewn pethau yn werth eu dysgu. Wrth ei gyflwyno, mi glywn fod y dosbarth wedi cynesu at ei ymddangosiad a'i ymarweddiad. Ei destyn oedd Llysiau Gwyddelig-panas-a moron, sut i'w tewychu. Yr oedd cynulliad da dim ond bachu eu dyddordeb, gellid bod yn siwr o ddyfodol y dosbarth. Dechreuodd gyda'r panas, mewn gardd tyddyn. Agorodd rhywun res iddo, a gwnaeth ynteu res o dyllau crynion cymaint a phowlen bara llaeth. Yna llenwi pob twll a dail coed wedi braenu-gwyddai pawb lle'r oedd digonedd- ac ychydig o bridd ar ben y dail. Yna tri hedyn i bob twll, a gadael i'r cryfaf dyfu ar ol egino. Eglurodd yn fanwl paham yr oedd y tyddynwyr wedi methu a chael marchnad iw panas yn Aberystwyth nid oeddynt yn werth eu coginio. Yr oedd y gwraidd yn deneu, yn wydn ac yn ferfaidd. Ond wrth wneyd ue i'r gwreiddiau chwyddo, doe breuder a blas hefyd. Yr oedd yn amlwg fod pawb yno wedi canlyn ei sgwrs yn glir. Yna tro at foron, ac agor rhes eto. Yr oedd gair drwg i'r ardal, meddai, am foron fforchiog. Eglurodd pam. Diffyg manyldra wrth osod