Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWMISDIR Gan J. GLYN DAVIES CLAWDD yn Lleyn uwchben y mor, a'r porphor bychan arno, hwn mor ber, pob chwa a dyn y gwenyn tuag yno. Swn y gwenyn haner swrth yn grwnian wrth felusder swn y dwr ar hyd y gro wrth dreiglo'n ol i'r dyfnder. Adar mor ar fin y dwr yn cadw stwr yn swnllyd, deryn cywarch draw mewn llwyn yn canu'n fwyn am funud. Glas y mor tu draw i wyrdd y clawdd a'i fyrdd o flodau cysgod cwmwl gwyn ar led yn cerdded tua'r glanau. Creigiau isel wrth y lan a'u gwymon dan ddwr gloew, yn ymsymud yn y man dan ymchwydd gwan y llanw. Ac yn unig ar y graig yn gwylio saig y glenydd, mulfran dal fel delw ddu, dan daenu ei hadenydd. Mynwn fod yn ngolwg mor a'r porphor dan fy elin, ac yn gweld y fulfran ddu yn harddu ei chynefin.