Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MÔN YN Y DDEUNAWFED GANRIF Gan A. O. H. JARMAN Religion and Politics in Mid-Eighteenth Century Angleseyy gan G. Nesta Evans. Gwasg Prifysgol Cymru. 12/6. VNy gyfrol ddiddorol hon y mae Mrs Nesta Evans (yn awr Lady Emrys Evans) yn cwpláu'r astudiaeth a gychwynnwyd ganddi yn ei llyfr blaenorol, Social Life in Mid-Eighteenth Century Anglesey, a gyhoeddwyd yn 1936. Yn y gwaith hwnnw rhoes inni ddarlun o fywyd beunyddiol bonheddig a gwrêng ym Môn yng nghanol y ddeunawfed ganrif, o orchwylion y gwahanol ddos- barthiadau cymdeithasol ac o'u tai a'u dillad a'u bwyd, eu hiechyd a'u henillion a'u horiau gwaith a hamdden. Ymranna ei llyfr newydd yn ddwy ran gyfartal, ac ymdrinnir yn y naill â'r bywyd eglwysig a chrefyddol yn yr un cyfnod, ac yn y llall â'r bywyd gwleidyddol a gweinyddol, a dyletswyddau'r ynadon a'r llysoedd barn a'r swyddogion gwladol. Ar y diwedd ceir pedwar atodiad, llyfryddiaeth o lawysgrifau a llyfrau, a mynegai. Seilir cynnwys y gyfrol hon, fel yr un flaenorol, yn bennaf ar yr wybodaeth a rydd William Bulkeley o'r Brynddu yn ei ddyddiadur adnabyddus. Eithr defnyddir ffynonellau eraill hefyd, megis llythyrau'r Morris- iaid, a rhyw drigain tudalen o nodiadau ynghylch gwaith yr Ynadon Heddwch ym Môn o waith Richard Hampton o'r Henllys, a geir yn yr un gyfrol â'r rhan gyntaf o ddyddiadur Bulkeley. Gosodir y darlun o'r sefyllfa ym Môn yn erbyn cefndir ehangach, gan ei gymharu â'r hyn a wyddys am gyflwr pethau mewn mannau eraill yng Nghymru, ac yn Lloegr. Y mae'r llyfr yn ffrwyth blynyddoedd o fyfyrio amyneddgar, o gywain gwybodaeth ac o drefnu a dadansoddi a chymharu ffeithiau. Y mae ar ben hynny yn waith hanesydd gofalus a chytbwys a ddefnyddiodd y ffeith- iau a gasglodd i gyfansoddi darlun cofiadwy o'r gymdeithas Gymreig ym Môn yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Cym- deithas gyn-ddiwydiannol a chyn-Fethodistaidd oedd hon, ac y mae'n ddiau na byddai portread o lawer rhanbarth arall yng Nghymru yn yr un cyfnod yn gwahaniaethu llawer oddi wrth un Mrs Nesta Evans, pe bai'r defnyddiau at ei gyfansoddi ar gael. Ganed William Bulkeley yn 1691 a bu fyw hyd 1760. Trigai yn y Brynddu, Llanfechell, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i