Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ail baragraff ar t. 116 dyfynnir geiriau a ysgrifennodd Ieuan Fardd am glerigwyr cyfnod Vavasor Powell fel barn Lewis Morris am ei gyfnod ei hun, a cheir dau neu dri o gamgymeriadau copïo yn y dyfyniad er ei fod wedi ei godi o lyfr argraffedig. Amhriodol yw'r geiriau wrongly dated yn yr ail droednodyn ar t. 54, gan mai dyna'r hen ddull o gyfrif y flwyddyn. Defnyddir y ffurfiau CUwchdernog a Cnewchdernog (gw. y mynegai, t. 248) yn aml yng nghorff y llyfr, eithr Cnwchdernog (Clwch-) yw enw'r fferm hon (gw. Ifor Williams, Enwau Lleoedd, t. 24). Cyfeirir ar t. 35 at waith G. G. Evans ar yr Anterliwtiau fel an unpublished thesis," eithr yr oedd Mr Evans wedi cyhoeddi ei erthygl ar Yr Anter- liwt Gymraeg (a ddisgrifir ganddo fel crynodeb o ran o draeth- awd ar yr Anterliwt Gymraeg ar gyfer y radd M.A.") yn Llên Cymru, Gorff. 1950. Sonia Mrs Evans hefyd, t. 37, am darddiad Seisnig y gwahanol elfennau yn yr anterliwt Gymraeg, eithr dywaid G. G. Evans yn bendant, ni ellir priodoli hanfodion ffurf yr anterliwt i ddylanwadau Seisnig (Llên Cymru, t. 93). Byddai'r ffurf luosog Gwyliau Mabsant yn well na Gwylmabsantau (cf. t. 29 a 55), hyd yn oed mewn llyfr Saesneg. Bydd yn werth cywiro'r ychydig wallau hyn os daw cyfle a dylid cofio, wrth gwrs, mai ychydig ydynt ynghanol cyfoeth o ddefnydd gwerthfawr a gyflwynir i'r darllenydd yng nghorff y gyfrol. Bydd llawer un yn methu deall paham y mae penrhyn y Creuddun a Llandudno yn Sir Gaernarfon, a hwythau ar ochr Sir Ddinbych i Afon Gonwy a phaham y mae darn o Ddyffryn Clwyd, ar yr ochr orllewinol i'r afon, yn rhan o Sir Fflint. Rhydd Frank Price Jones ateb i'r ddau gwestiwn yn ei lyfr, The Story of Denbighshire through its Castles. Ym mis Hydref 1282, arwyddodd Edwart I weithred yn tros- glwyddo tir rhwng afonydd Clwyd a Chonwy i'w gyfaill, Iarll Caerlwytgoed. Ond yr oedd newydd adeiladu castell yn Rhudd- lan, a dechrau adeiladu un arall yng Nghonwy, ac er mwyn diog- elu'r rheini cadwodd y tir yr ochr arall i'r afon iddynt yn ei ddwylo'i hun. Cysylltodd y naill â Sir Fflint a'r llall â Sir Gaernarfon, cyn bod Sir Ddinbych mewn bod.