Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYDDOR SERCH Gan E. TEGLA DAVIES Rhieni Cymru Fydd. Rhan 1-Gwyddor Serch, gan T. Trefor Jones. Gwasg y Bala. 2/ Y MAE Dr Trefor Jones yn gymwynaswr mawr i'r to sy'n codi drwy gyhoeddi'r llyfrynnau hyn ar ddirgelwch serch a rhyw. Wrth ddarllen y llyfryn hwn, bwriais olwg dros gyfnod fy mhlentyndod a'm llencyndod fy hun, gan ystyried mor llwgr y moddion y daeth fy nghyfnod i drwyddynt i wybod am y dirgelion hyn. Ni freuddwydiai neb sôn gair wrthym amdanynt ond ambell greadur anllad a ymhyfrydai mewn hau efrau yn eneidiau pobl ieuainc. Yr oedd y ffeithiau'n rhythu yn ein hwyn- ebau, yn ymdaith flynyddol y gŵr ar gefn y ferlen fach yn arwain march mawr llyfndew, gloyw ei flewyn, rubanog, anghyffredin o hardd a nwyfus, a'r cesig yn mynd i'w gyfarfod ar fuarth yr Hand ninnau'r bechgyn yn tyrru yno ar awr ginio'r ysgol i lygadrythu a gwrando ar y sylwadau a fwriai gweision ffermydd ar ei gilydd, a ffoi am ein bywyd os deuai rhywun go barchus heibio. Yna tyrru at ein gilydd i ail adrodd y sylwadau, a'r naill a'r llall yn adrodd straeon aflan ynglyn â'r pethau hyn yn gyffredinol a glywsem gan hwn a'r llall. Eithr dim gair o hyfforddiant gan rieni ac arweinwyr crefyddol, ond condemnio a chosbi os dig- wyddem drwy lithro ar air ddangos y gwyddem ddim am y pethau hyn. Canlyniad y cwbl oedd magu meddyliau crawnllyd neu fynd yn ofnadwy fursennaidd a magu euogrwydd dianghenraid a wnâi fywyd yn faich. Dyna gyfnod y sgerti hirion a ysgubai'r ffordd fawr. Os byddai merch a'i ffêr yn y golwg yn is na'i sgert fe'i hystyrid yn hoeden, a llanciau'n wincio ar ei gilydd wrth iddi fynd heibio. Pan ddaeth y sgerti cwta i'r ffasiwn yn yr ugeiniau bygythiai'r mursennaidd lifeiriant o anfoesoldeb dros y wlad, ond fel arall yn hollol y bu. Dywedai'r diweddar Barch. W. O. Evans wrthyf yn y cyfnod hwnnw ei fod yn Llundain ryw ddiwrnod, a rhes o ferched ieuainc yn cerdded ar hyd y palmant ac ar gefn pob un hysbyslen â'r geiriau hyn arni-" Look at our legs." Hysbysebu hosanau yr oeddynt, ond heb yr hysbyslen ni chymerai neb unrhyw sylw o'r un ohonynt. Genhedlaeth ynghynt byddai merch felly'n ennyn chwilfrydedd pwdr neu ddirmyg mursennaidd. Ni