Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

genhedlu plant." Dyna union ddiffiniad Dr Jones o semen*. Os felly, pam nad defnyddio'r gair had" ? Pam hefyd ovum yn lle wy," ac ovary yn lIe wyfa ? Gair yr hen bobl pan âi merch dan weithred feddygol i dynnu ymaith ei chroth oedd- mae hi wedi cael tynnu'r fam' Campus. Y mae geiriau eraill ar lafar, a hynny mewn cymdeithas barchus, y gellid eu defnyddio yn lle'r geiriau lladinaidd a ddefnyddir, canys yr un peth yn union a gyfleir i'r meddwl drwy'r naill a'r llall. Da fyddai edfryd yr hen eiriau Cymraeg a threiddgar hyn. Byddai'r llyfryn yn llawer mwy defnyddiol pe gwneid hynny, canys onid talu gwrogaeth gudd i'r hen fursendod yw'r eiriadaeth ladinaidd a dieithr ? Ar gyfer pobl gyffredin y mae'r llyfryn. Gan hynny,. a dderbyn Dr Jones yr awgrym ? Y mae Rhagair i'r llyfryn gan Esgob Bangor yn cymeradwyo'i neges yn eiddgar. Cystal inni gyfaddef fod cymdeithas wedi ei chynllunio yn llwyr gan awdurdod canolog yn caethiwo dynion. Po fwyaf o. gynllunio economaidd a gawn, felly, mwyaf oll yr angen am ryddid gwleidyddol i ofalu bod y cynllun er lles dynion, yn hytrach na dynion er lles y cynllun Ond ofer yr holl gynllunio, ofer yr holl ddatganoli, os nad yw'r dynion sydd i drin yr unedau bychain yn deilwng o gyfrifol- deb Byddwn yn onest un o ddadleuon pennaf y biwrocrat dros gadw awdurdod yn ei ddwylo ef ei hun ydyw dirywiad cymdeithas. Pwy all wadu nad gwylwyr (spectators) ydyw'r rhan fwyaf ohonom heddiw ? Beth ydyw achos y dirywiad, yn ôl y cymdeithasegwyr ? Yn fyr, bod dyn wedi ei dynnu o'i wir gynefin, bywyd y teulu mewn bro wledig neu dref fechan, yn rhy sydyn i fedru ei addasu ei hun yn iawn i fywyd undonog diwydiant-mewn dau air, colli gwreiddiau. — Ioàn Bowen Rees, yn Y Ddraig Goch.