Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HEN SGWL Gan H. EVANS THOMAS TV/T ADDEUER y teitl uchod, a chofied y darllenydd mai term o anwyldeb yw'r gair hen" yna. Weithiau, gelwid ef yn "Jones y Sgŵl "-coffa da amdano. Efô a deyrnasai ar orsedd addysg yn ysgol y Nant wrth droed yr Wyddfa ym mlyn- yddoedd bore fy oes i. Gwr heb fod na byr na thai, dau lygad byw iawn, fel y cofiwn yn dda am ei welediad cyflym pan eisteddem yn ei ddosbarth, neu pan safem yn gylch ar lawr yr ysgol yn y wers ddarllen. Hir yr erys yr atgo am yr hen adeilad dwy stafell, un fawr hirsgwar, ac un i'r babanod tu cefn, a thy i'r prifathro yn gydiol â'r ysgol. Hynny'n hwylustod mawr i'r prif, petai'n hwyr yn deftro a chodi at ganiad y gloch naw. Y pryd hwnnw, Ilithrai'n dawel esmwyth yn ei slipars at y ddesg i alw'r enwau, ac yna'n ôl at ei frecwast. Cyfyngaf fy sylwadau iddo ef y tro hwn, ond nac anghofier y staff." Yn ysgol y babanod, yr oedd Miss Jones (Mrs Owen wedi hynny), a osodai'r sylfaen i'n cymhwyso i esgyn i'r ysgol fawr i ddwylo hyfedr Evan Davies, yr athro cynorthwyol. Gwr oedd ef a aned yn freiniol yn athro. Ni wn a yw ef ar dir y byw yn awr-gobeithio ei fod-gwr cyhyrog a chanddo lais bas dwfn. Da ar adegau ei fod yn gryf gyhyrog, oherwydd erys yr atgof yn fyw yn fy meddwl am un sgarmes fawr yn yr ysgol, ond Ifan a orfu, a bu tangnef mwy. Pleser oedd bod yn aelod o'i ddosbarth, yn mynd trwy'r nofel Monte Cristo, a ninnau heb gael mwy na chil-agor ein llygaid ar y Saesneg. Ond yn ôl at yr Hen Sgwl." Cyfrannwr addysg heb ei fath. Posibl na fyddai ei ddull yn dderbyniol ac uniongred heddiw. Cofiaf ryw het feddal a wisgai, a honno'n gorffwys ar gornel ei ddesg. Pan welai arwyddion syrthni yn un o'r disgyblion, lluchiai'r hen het yn null boomerang y Maori, gyda rhyw berffaith gyflymder at ei nod, nes hawlio sylw. Yr oedd yn gerddor gwych meddai ar ffugenw, ond ni wybûm •erioed ai llys barddas ai llys y gerdd a'i bedyddiodd yn Ifan Efrais." Orig hapus i ni fyddai ar brynhawn Dydd Gwener, efô wrth yr offeryn yn dysgu inni elfennau cerddoriaeth gyda'r Modulator, a hefyd canu'r raddfa drwy arwyddion y llaw gaead neu agored, fel y byddai'r galw. Sol-ffa a ddysgid, a chaem