Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i Emrys ap Iwan ar ôl dyddiau'r Nant yn Arfon. Efô a'm tywys- odd, drwy ei bregethau, i'r porfeydd toreithiog" ym myd John Ruskin ac eraill. Deuwr tra gwahanol i'w gilydd, ie, ar lawer cyfrif. Digwyddodd rhywbeth ym mywyd yr hen sgwl a dynnodd wg rhai o arweinwyr a cheidwaid y ffydd, a barnodd y Pwyllgor Addysg yn ddoeth ei symud i ardal y Rhiw, yn Llyn, ac yno y bu farw. Gwir fy mod i ac eraill wedi cefnu ar yr ysgol pan ddaeth amser ei ymadawiad ef, ond aeth at ein calon yn fawr. Cefais fraint nad anghofiaf mohoni, yn fuan yn fy hanes fel gweinidog yng Nghemaes, Maldwyn, rywle yng nghymdogaeth 1922-24, pan oeddwn yn pregethu yn ardal Tudweiliog, a chyfaill imi o Lanberis yn ysgolfeistr yno. Gwnaeth gymwynas fawr â mi trwy fy nghymryd i fynwent Aberdaron, ac yno cefais sefyll yn bennoeth i dalu teyrnged gywir i'r Hen Sgwl. Griffith Evan Jones oedd ei enw priod, a hannai o dreflan y Rachub, yn ardal Bethesda. Yr oedd yn deilwng o draddodiadau gorau ysgolfeistriaid gwych y dyddiau a fu. Tebyg iddo ef, fel llu o ysgolfeistriaid ar ei ôl, fyned i'w fedd heb weled o ffrwyth ei lafur, ond gwych yw cael tystio nad ofer fu'r hau ar erwau dysg, gan gofio y gallai yntau yn ei ddydd ddweud, canys ni wyddost pa un a ffynna ai hynyma ai hynacw." Boed iddo esmwyth orffwys ger traeth Aberdaron, yn sŵn murmuron y môf. Mae gin i air i'w ddeud wrth bobol ifenc a bydde'n dda iddy nhw wrando. Mae arna i eisio iddy nhw mroi ati i ddysgu u gilidd mewn ffarmio a phethe buddiol. Mi fydde'n dda iawn ta nhw'n syfydlu cumdeithas mhob ardal, i ddwad at u gilidd i fforddo naill y llall, yn lIe hel i'r efel ac i'r odun fel y bydda nhw yn y geua i ddeud straeon digri, ne i'r dafarn i wario' u harian am ryferedd, a fellu'n tyfu fynu heb wbod dim ar y ddyar, a mund i ddechre trin y bud heb wbod dim am y bud pw ryfedd fod y bud yn u trin nhw — Gwilym Hiraethog, yn Llythurau 'Rhen Ffarmwr.