Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS V MAE'N bleser adrodd am ymdrechion y Canghennau a'u gweithgarwch. Er mai adeg gwyliau'r haf ydoedd, synnaf o sylwi ar fy nyddiadur gymaint o gyfarfodydd Canghennau a gynhaliwyd yn ystod y misoedd hynny. Cangen Dinbych wedi ei hail-drefnu a dewis swyddogion newydd, a'r rheini wedi cyfarfod droeon a threfnu'r dosbarthiadau yn brydlon. Cafwyd adnewydd- iad ysbryd yn Ninbych. Y mae'r Gangen newydd yn Nyffryn Tanat wedi cydio yn y gwaith o ddifrif. Trefnwyd darlith ar- bennig ganddynt ar Werin Cymru, a Frank Price Jones yn dar- lithio. Trefnwyd rhai dosbarthiadau newydd ganddynt, a dis- gwyliwn weld bywiogrwydd addysgol yn ail-gyniwair drwy'r dyffryn hardd hwn. Canghennau'r Rhyl a Dyffryn Peris yn weithgar, a'r ddwy wedi cynnal Ysgol Haf Ddibreswyl. Y Canghennau sy'n cadw'r awyddfryd am addysg yn effro. Da gweled Cangen y Rhyl yn parhau i gael un dosbarth Cymraeg fan leiaf yn y dre. Cangen Shotton wedi bod yn hynod o egnïol mewn ardal a oedd wedi colli gafael ar draddodiad gwych o weithgarwch dros Addysg Pobl mewn Oed. Gwnaethant ymdrech arbennig i drefnu Ysgol Haf Ddibreswyl lwyddiannus, ac yn ddiweddarach cynnal Ysgol Undydd gyda'r Arglwydd Macdonald, ac yn goron ar eu gwaith llwyddo i drefnu dosbarth Sesiwn at y gaeaf, ac Emlyn Rogers yn darlithio ar y pwnc, Problemau Economaidd a Gwleidyddol y Ganrif hon." Y dosbarth wedi cychwyn yn rhag- orol. Llafuriodd Griffith J. Jones, ein Hathro-a-Threfnydd Llawn Amser yn y sir, yn ddygn gyda'r Gangen. Cangen Bae Colwyn yn anffodus, ar ôl sicrhau ysgrifenyddes wych, honno'n cael ei symud i ffwrdd i weithio. Un arall yn cymryd ei lIe, ond hithau eto yn symud o'r ardal tua'r Nadolig. Trwy brofedigaeth yn nheulu'r trysorydd, gorfu i'r Gangen chwilio am drysorydd newydd. Ond er yr anawsterau, y maent yn tyfu mewn grym a diwydrwydd, ac yn trefnu eu dosbarthiadau a'u cyfarfodydd arbennig. Nid yw Cangen Dolgellau mor fyw a gweithgar eleni ag y bu teimlir bod y difrawder presennol yno i'w briodoli i'r ffaith fod y dosbarthiadau'n llwyddo a'r myfyrwyr yn anghofus ac yn di-