Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YN NGHAERDYDD Gan D. T. GUY CYMERAF y cyfle hwn ar ddechrau tymor newydd i lon- gyfarch Canghennau Caerfyrddin, Llanelli, Pontardulais,. Castell Nedd, Abertawe, Port Talbot, Penybont ac Ystalyfera, ar yr Ysgolion Haf Dibreswyl ardderchog a drefnwyd ganddynt yn ystod misoedd yr haf a'r hydref. Nid oes rhyw lawer o amser yn ôl er pan ystyrid y cyfnod hwn o'r flwyddyn yn gyfnod marw ym myd Addysg Pobl mewn Oed. Nid felly y mae yn awr. Trefnwyd deg Ysgol Haf yn Neheudir Cymru rhwng mis Mai a mis Medi, ac yr oedd cyfan- swm y cyrsiau ynddynt yn 32. Ni fydd ein Hysgolion Haf Di- breswyl ni yn cystadlu mewn un modd â'r Ysgolion Preswyl a gynhelir ym mis Awst. Yn wir, fe gymhellwyd nifer o fyfyrwyr yr Ysgolion Dibreswyl i fynd i'r Ysgolion Preswyl, ac aeth rhai ohonynt yno eleni am y tro cyntaf erioed. Cymerodd Athrawon Llawn Amser Dosbarthiadau Tu Allan Colegau'r Prifysgol ran amlwg iawn yn yr Ysgolion DibreswyL Trwy gyfrwng y rhain, gallasant ymweld ag ardaloedd a chyfarfod â myfyrwyr gwahanol i'r rhai y deuent i gyffyrddiad â hwynt yn eu rhanbarthau eu hunain yn ystod tymor y gaeaf. Er nad yw Coleg Harlech yn cyfranogi yn swyddogol yn nhrefnu'r ysgol- ion hyn mwyach, eto byddwn yn cadw enw Coleg Harlech ar ein rhaglenni printiedig ac ar ein hysbyslenni. Trefnodd Cangen Pontardulais gyfarfod arbennig i ddathlu Jiwbili y WEA ar Dachwedd 4 diolch i'r ysgrifennydd egnïol, Miss E. B. Lewis. F. Elwyn Jones, Recorder Abertawe, oedd y gŵr gwadd, a D. R. Grenfell oedd cadeirydd y cyfarfod. Nid oes dim amheuaeth nad oedd y cyfarfod hwn yn llwyddiant anghyffredin. Y mae'n rhy gynnar eto i broffwydo beth a ddigwydd yn ystod y tymor sydd o'n blaenau. Dechreuodd nifer o ddosbarthiadau ar eu gwaith eisoes y mae rhai ohonynt yn gryf o ran rhifedi, ac y mae rhai eraill yn ymdrechu'n galed- i chwyddo eu rhif. Cawn lawer mwy o anawsterau i'n hwynebu yn y trefi mawrion nag yn y pentrefi bychain. Y mae'r atyniadau eraill yn y trefi mawr