Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH Gan I. DAN HARRY DAETH yn ddiwedd blwyddyn arall ar ganol mis Mehefin, a gwelsom un genhedlaeth yn rhagor o fyfyrwyr Coleg Harlech yn gwasgaru i bedwar cwr y byd. Bu rhyw ddeg a thrigain o fechgyn a merched gyda ni y flwyddyn hon, y mwyafrif am y flwyddyn ar ei hyd, a'r gweddill am ddau dymor, neu lai na hynny. Wedi ychydig o saib, daeth yn adeg yr Ysgolion Haf. Tair wythnos o ysgolion preswyl yn ôl traddodiad Coleg Harlech yd- oedd y rhaglen, wythnos o ddrama dan arweiniad cwmni pro- ffesiynol, wythnos yn cynnwys cyrsiau ar broblemau llosg y dydd ynghyda chyrsiau ar lenyddiaeth, a'r wythnos olaf wedi ei neilltuo i drafodaeth ar y datblygiadau ym myd llên Cymru ar hyd yr hanner canrif diwaethaf. Fe gofia darllenwyr LLEUFER inni arbrofi yn 1952 â chwrs o ddarlithiau ar hanes Cymru gan yr, arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn y maes. Yr amcan ydoedd dod â'r gwaith ymchwil diweddaraf i gyrraedd pawb a deimlai ddigon o ddiddordeb yn y mater i dreulio wythnos wrth ei ben, ac yn wir fe ddaeth mwy na llond y Coleg at ei gilydd-yn athrawon hanes yn ein hysgolion, yn fyfyrwyr yn ein dosbarthiadau allanol, ac yn garedigion diwylliant a hanes ein gwlad. Bu'r arbrawf yn llwyddiant digymysg. Yn wir yn gymaint llwyddiant fel y symbylwyd ni i arbrofi ymhellach ag Ysgol Haf Breswyl yn delio'n unig â llenyddiaeth Cymru yn y ganrif hon. Yn Gymraeg y cynhaliwyd hi. Dyma'r darlithwyr a roddodd eu gwasanaeth Idris Foster yn sôn am Agweddau ar ryddiaith Gymraeg ddi- weddar," W. J. Gruffydd yn trin Safonau Beirniadaeth Len- yddol," Thomas Jones yn trafod Swyddogaeth y bardd yn y ganrif hon," J. Lloyd-Jones yn siarad ar Y Mesurau Caeth a'u dyfodol," T. H. Parry-Williams ar Yr Ysgrif a rhyddiaith bersonol," Caerwyn Williams ar Lenyddiaeth gyfoes mewn Gwyddeleg," Aneirin Talfan Davies ar Y Radio a llenyddiaeth," ac i gloi'r gyfres J. Roberts Williams (golygydd Y Cymro) yn delio â'r broblem amserol honno-" Cyhoeddi Llenyddiaeth Gymraeg heddiw." Daeth tua chant o fyfyrwyr i'r cwrs ac yr oedd yn amlwg fod yr Ysgol Haf yn cyfarfod â rhyw wir angen am gyfrwng o'r fath i adolygu cyflwr presennol a phosibiliadau ein llenyddiaeth yn y dyfodol. Fe recordiwyd rhan o'r darlithiau a'r trafodaethau gan y BBC, ac yn ddiweddarach rhoddwyd cyfle i ddarlledu