Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Bywyd ac Amserau'r Esgob Richard Davies, gan Glanmor Williams. Gwasg Prifysgol Cymru. 8/6. Y Beibl Cymraeg, gan y Parch. D. Tecwyn Evans. Gwasg Gee. 2 I WNEUD chwarae teg â'r llyfr cyntaf, ysgolhaig a ddylai ei adolygu ac nid fy math i. Ni allaf ond tystiolaethu i'r budd a'r mwynhad a gefais o'i ddarllen. Llyfr gan arbenigwr yw, canys ar gyfer y radd o M.A. y paratowyd ef, a chan hynny cafodd fendith arbenigwyr ond mor fyw a rhwydd yw'r ymdriniaeth nes ei fod yn llyfr ar ein cyfer ninnau'r cyffredinolion. Credaf y gellir dweud ar bwys tystiolaeth y llyfr fod Richard Davies yn un o hanner dwsin gwyr mwyaf y genedl mewn unrhyw gyfnod, ac yn yr astudiaeth fanwl hon ceir cymaint o'i hanes ag y sydd ar gael -o'i eni'n fab i giwrad y Gyffin, ger Conwy, i'w farw yn Esgob Tyddewi. Dywedir gan rai mai yn y flwyddyn 1501 y ganed ef; yn y flwyddyn 1509, medd eraill. Dengys Mr Williams fod anaws- terau ynglyn â'r ddau ddyddiad. Os yn 1509, byddai'n mynd i'r brifysgol yn dair neu bedair ar ddeg oed, ond os yn 1501 byddai'n mynd yno'n hyn na'r cyffredin. Am y syniad mai i Geneva yr aeth dros gyfnod ei alltudiaeth, dywaid Mr Williams-" Dangos- wyd bellach ar sail tystiolaethau diwrthbrawf cofnodion dinas Frankfurt mai yno y treuliodd Davies y rhan fwyaf o'i alltudiaeth, ac yn wir nad oes ronyn o dystiolaeth gyffelyb o ddinas Geneva iddo fod yno o gwbl." Ac ystyried mor ddiweddar ar ei oes y daeth i gysylltiad â Chymru y mae ei weithgarwch erddi yn anhygoel. Fel ysgolhaig a llenor cydnabuwyd ei allu ymhell y tu allan i'w wlad ei hun, ac awgrymir ei fod yn gyfaill i rai o sêr disgleiriaf ffurfafen dysg a llên y Dadeni yn Lloegr. Fel aelod o Dy'r Arglwyddi ef yn bennaf oedd yn gyfrifol am Ddeddf 1563 a archai gyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg. Yr oedd yn Brotestant o'r Protes- taniaid. Ychwanegwyd yn fawr at ei lafur yn Nhyddewi gan anwybodaeth a difaterwch y werin anwybodaeth, tlodi, ceidwad- aeth a phrinder offeiriadon, a gwrthwynebiad uchelwyr a lynai wrth yr hen ffydd. Gwir fod iddo yntau ei ddiffygion nas cuddir yn y llyfr, ond costiodd ei lafur dros ei genedl yn ddrud iddo. Cofir ef gennym ni yn bennaf fel un a chymaint o ran ganddo yn Nhestament Newydd 1567.