Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iaco ab Dewi, 1648-1722, gan Garfield H. Hughes. Gwasg y Brifysgol. 8 /6. Morgannwg Matthews Ewenni, golygwyd gan Henry Lewis. Y Gyfres Ddeunaw. Gwasg y Brifysgol. 1 /6. Hyd yn hyn, ychydig sydd wedi ei sgrifennu ar draddodiad llenyddol gwahanol daleithiau a siroedd Cymru. Eithriadau yw cyfrol orchestol G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, ac erthyglau megis honno a gaed gan Thomas Parry ar Sir Gaernarfon a Llenyddiaeth Gymraeg" (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1941), a'r un gan G. J. Williams, Tra- ddodiad Llenyddol Dyffryn Clwyd a'r Cyffiniau," a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhifyn cyntaf Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952. Yn awr, dyma Garfield Hughes yn rhoi inni olwg ar weithgarwch llenorion ac ysgolheigion Sir Gàerfyrddin (a godre Sir Aberteifi) yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dech- rau'r ddeunawfed-hynny yw, y cyfnod rhwng Cannwyll y Cymry ac emynau adnabyddus gwyr fel Morgan Rhys, Dafydd Jones o Gaeo, Williams Pantycelyn a Dafydd Wiliam. Prin yw'r hanes sydd ar glawr am fywyd Iaco ab Dewi. Brodor o Landysul ydoedd. Daeth dan ddylanwad Stephen Hughes ac ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr ym Mhencader. Ar ôl colli ei eiddo drwy dân, rywbryd yn 1700, he lived a poor and obscure life," meddai cyfoeswr iddo. Claddwyd ef yn Llanllawddog, lle y treuliasai ran olaf ei oes. Yn ôl tystiolaeth Moses Williams, bu'n cynorthwyo Stephen Hughes i gasglu penillion y Ficer Prichard ac i drosi Taith y Pererin i'r Gymraeg. Bernir mai ef hefyd oedd golygydd y gyfrol Flores Poetarum Brittanicorum (1710), sy'n cynnwys "dyrifau" yn ogystal â darnau yn y mesurau caeth. Ymddengys mai casglu a chopïo llawysgrifau oedd ei brif waith, ond yn ystod rhan olaf ei oes cyfieithodd wyth o lyfrau crefyddol o'r Saesneg, ac fe'u cyhoeddwyd. Yr oedd hefyd yn barddoni rhyw gymaint. Rhennir llyfr Mr Hughes fel hyn i, Rhagymadrodd ii, ei Fywyd; iii, Llawysgrifau; iv, Barddoniaeth (gyda'r cerddi wedi eu cynnwys fel atodiad) v, Cyfieithiadau vi, Diweddglo. Ymdrinnir yn fanwl â'r llawysgrifau a gopïwyd gan Iaco ab Dewi, neu a fu yn ei feddiant, gan sylwi ar natur ysgolheigaidd ei waith a'r tebygrwydd iddo ddyfod dan ddylanwad Edward Lhuyd yn rhan olaf ei oes. Dangosir- fel y daeth ei lawysgrifau yn etifeddiaeth i do diweddarach o ysgolheigion a gododd yn