Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhyfedd rhai o'r hen Biwritaniaid o gael gwared o'r hen arferion hyn. Mae'r hanesion hyn wedi eu hadrodd yn ddigon difyr, ac amheuthun yw taro ar ambell ymadrodd o iaith lafar gwlad, megis nid oedd yn prisio am neb," yr oedd yn prynhawnu'n deg," o brysur (sef o ddifri "), "pawb, 'coed, maes a mynydd/ yn gwadu," ef oedd crwth a thelyn y tafarndai." Y mae'r awdur ar ei orau yn adrodd am helynt y chware bando ar draeth Cynfrig, yr hen Siencyn Penhydd yn gorfoleddu pan gaiff ei fab ddigon o annwyd fel ag i'w rwystro i gymryd rhan yn y chware- Haleliwia Buddugoliaeth Unwaith eto. Bendigedig; dyma'r cythraul dan fy nhraed "-ond pan ddaw'r newydd fod chwaraewyr y Pil wedi trechu llanciau Margam Trawyd yntau â phrudd-der dwfn, a gwingodd yn aruthrol oherwydd fod ei blwyf ef wedi colli'r dydd, fel nas gwyddai beth i wneud, ac ym mhrofedigaeth y foment gwaeddodd allan, Pe buasai Twm ni yno, nid fel hyn y buasai Mae hanes synagog Satan yn Sain Ffagan yr un mor ddifyrrus. Eto cwta ac annelwig braidd yw'r cyfeiriadau at rai hen arferion Yr oedd Modryb Cate o'r Grindwn yn arfer disgrifio ardderchogrwydd y daplas haf a gynhelid ar Donyrefail a Mynydd Llanbed, lle y byddai rhyw filoedd yn ymgrynhoi'n flynyddol i ddawnsio, a llawer o bethau eraill yr ydym yn methu â chofio yn awr." Cynigir yr hanesion hyn o fywyd Bro Morgannwg 'slawer dydd inni "yn sgil" Llanwynno Glanffrwd, darlun digymar o un o blwyfi'r Blaeneudir, yr hen amser, yr hen bobl a'r hen droeon." Cafwyd argraffiad newydd o'r llyfr hwnnw hefyd yn ddiweddar wedi ei olygu gan Henry Lewis. Mae'r ddau lyfr yn wahanol iawn i'w gilydd o ran eu naws. Efallai y bydd i'r deth- oliad hwn helpu i ddwyn Llanwynno i sylw rhai sydd heb ei ddarllen. BRINLEY BEES Croeso cynnes i gylchgrawn Cymraeg arall, sef Llafar Haf 1953, ac Aneirin Talfan Davies yn olygydd (Gwasg Aberystwyth, 3/6). Cyhoeddwyd eisoes ddwy gyfrol o Llafar, yn cynnwys sgyrsiau, storiau, barddoniaeth, etc., a ddarlledwyd ar y Rhaglen Gymraeg, a bu'r rheini mor llwyddiannus fel y penderfynwyd ei gyhoeddi yn gylchgrawn bob chwe mis. Yr hyn a rydd arbenigrwydd ar farddoniaeth y rhifyn hwn ydyw chwe chân ddiweddar gan T. Gwynn Jones. Y mae pob