Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond i ddychwelyd at Llafar. Dwy stori fer sydd yma­un Islwyn Williams yn orfoledd, ac un Olwen Samuel yn llawn tynerwch a deall. Diddorol iawn ydyw atgofion O. E. Roberts am y suffragettes yn Llanystumdwy, pan ddisgynnodd gwerin Cymru i lawr i lefel y bwystfil. Bu darnau o beisiau y merched hyn yn cael eu rhannu rhwng llanciau a'i gilydd ledled Sir Gaer- narfon ar ôl y cyfarfod hwnnw gwelais rai ohonynt. Gwelais yr un anwareidd-dra fy hun yn un o gyfarfodydd Lloyd George ym Mhafiliwn Caernarfon. Disgynnodd het un o'r merched ar y llwyfan wrth draed un o bregethwyr ac o arweinwyr mawr Cymru, hwnnw'n eistedd â'i ffon yn ei law. Rhoes ei ffon o dan yr het a ffling iddi i ganol y dorf dan chwerthin yn braf. Yntau ar ochr y bwystfilod. D. T. RHAI O AWDURON Y RHIFYN DAFYDD Orwig Jones. — Athro yn Ysgol Ramadeg Blaenau Ffestiniog Athro Dosbarthiadau. BRINLEY REEs.-Darlithydd yn yr Adran Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Bangor awdur Dulliau'r Canu Rhydd, 1500-1650. R. E. VAUGHAN ROBERTS.—Prifathro'r Ysgol Gynradd, Llanarmon-yn-Iâl (hen ysgol Richard Morgan) darlledwr yn y rhaglen, Byd Natur. GYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- Harry Nutt, Temple House, 27 Portman Square, London, W.l. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-D. T. Guy, Swyddfa'r WEA, 52 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-C. E. Thomas, Swyddfa'r WEA, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor. Golygydd LLEUFBR—David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER—D. Tecwyn Lloyd, Coleg Harlech, Harlech. Dosbarthwr LLEUFEB—Miss J. Allford, Swyddfa'r WEA, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor.