Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMERIR llawer o ddiddordeb gan bobl yn y blynyddoedd diweddar hyn yn hanes eu bro, ac y mae 'Hanes Lleol yn bwnc astudiaeth gan lawer o ddosbarthiadau'r WEA. Fy nghyfaill Bob Owen, Croesor, wrth gwrs, ydyw ei archofieiriad. Bydd hanes cyfìredinol yn dyfod yn llawer nes atom os gallwn ei gydio wrth ddigwyddiadau neu weddillion yn ein hardal ein hunain. Wrth imi ddysgu i blant yr ysgol ym Mangor, er enghraifft, hanes y Rhyfel Cartref rhwng y senedd a'r brenin yn nyddiau Cromwell, haws oedd hoelio eu sylw drwy sôn wrthynt am Frwydr Llan- dygái" a ymladdwyd ryw dair milltir tu allan i'r dref,. er mai ysgarmes rhwng ychydig gannoedd o filwyr ydoedd honno. Flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn yn athro yn Nhal-y-sarn, cefais sgwrs un noswaith â hen wr o dyddynnwr, ac adroddodd wrthyf ei hanes ei hun yn diwyllio'r tir gwyllt ar ochr y mynydd, a chlirio'r eithin a'r drain duon a'r cerrig i ffwrdd. Dywedodd ei fod wedi chwalu llawer o Gytiau Gwyddelod a bod rhai o gerrig y rheini yn waliau ysgol Tal-y-sarn a safai ychydig yn is i lawr. Meddyliwch amdanaf yn dysgu i'r plant am y bobl a fu un- waith yn byw yn y cytiau hyn ar y llechwedd uwchlaw'r ysgol- fod dwylo blewog eu hynafiaid efallai wedi gafael yn rhai o'r cerrig a oedd yn y waliau o'u cwmpas, a mwg eu haelwydydd wedi duo rhai ohonynt. Gall gweddillion hen gastell, hen ffordd, neu hen felin, agor drws i'r dychymyg yr un modd. Neu enwau'r caeau. Bûm un- waith yn ceisio adnabod safleoedd rhai o hen drefgorddau Llyn yn yr Oesoedd Canol, ac yr oedd safle un ohonynt, Ros Veinassaf, yn dywyll iawn imi. Cysylltir hi â Keydio yn y Record of Caernar- von, a chan fod Plasyngheidio yng ngogledd plwy Ceidio tybiwn CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSO Y GW EITHWYR YNG NOHYMRU Cyf. X NODIADAU'R GOLYGYDÌ3Ì LLEUFER HAF 1954 Rhif2\