Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR XIV.-ATGOFION AM GOLEG HARLECH GAN BEN BOWEN THOMAS MATH o ddewis yw bywyd a champ yw dethol ychydig o atgof- ion amdano. Hyd yn oed pe rhoddai'r golygydd medrus rifyn llawn imi, a phe byddai'r amser gennyf innau i'w lanw, byddai yn rhaid imi ddethol yn greulon wrth ysgrifennu am y deuddeg mlynedd hynny a dreuliais yng Ngholeg Harlech. Ond erthygl un erthygl-a geisiwyd gennyf, a honno ar fyr rybudd Y mae'r creulonder, felly, yn troi'n gyflafan ar unwaith. Rhaid ymwrthod â thalu teyrnged i arweinwyr cyfnod y rhodd- wyd i mi'r fraint, fel glaslanc megis, o fod yn gydweithiwr â hwy, fel Thomas Jones, Percy Watkins, y ddau W. J. Williams, Silyn Roberts, John Davies (WEA), John Morgan Jones, Wynn Wheldon, Herbert Morgan, a Mrs Huws Davies, i enwi dim ond dyrnaid o'r rhai amlycaf. Rhaid peidio â thalu dyled drom i gyd- athrawon fel D. James Jones, T. Rowland Hughes, Robert Rich- ards, E. H. Jones, Dylan Pritchard, D. W. Roberts, Glyn Lloyd, ac eraill sydd yn parhau mewn cysylltiad swyddogol naill ai â mi ai â gwaithy Coleg. Rhaid gohirio'r cyfle i gydnabod y cyfoeth a ddaeth i'm bywyd personol trwy fod yn lladmerydd i'r Coleg gerbron Colegau'r Brifysgol, yr Awdurdodau Addysg, yr Undebau Llafur, y WEA, y Sefydliadau Addysgol, y Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol, heb sôn am weddau eraill ar fywyd y genedl yn ei chrefydd, ei diwylliant a'i haddysg, a'r gyfathrach trwy- ddynt oll â bywyd y Deyrnas Gyfunol ac amryw o wledydd eraill. Rhaid imi ganolbwyntio ar fywyd a gwaith y Coleg fel corff byw a minnau'n gyfrannog ynddo. Yn gyntaf, dyna'r Ysgolion Haf. Gweddus cychwyn gyda hwy, oherwydd gyda hwy y cychwynnodd y Coleg. Cofiaf y pnawn Gwener hwnnw ym Mehefin 1927 pan ddwedwyd wrthyf fod Will- iams Parry wedi cyrraedd­ddiwrnod o flaen ei amser Dod at Ddydd Sadwrn a wnaeth ef, nid ar Ddydd Sadwrn. Yr oedd ganddo ei sbienddrych. Ni allai fentro i wlad Ellis Wynne hebddo, er mwyn gweled pell yn agos a phethau bychain yn fawr." Cariodd ef i lan y môr, ac wrth inni gerdded ar y traeth disgynnodd yn sydyn ar ei liniau a rhoi'r sbienddrych wrth ei lygad gan anelu trwy fwlch yn y dwynen dywod at Gastell Harlech. Ymhen munud gofynnodd i minnau benlinio yn ei ymyl ac edrych ar yr