Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLUN DOSBARTH YNG NGHOLEG HARLECH (Y Flwyddyn Gyntaf, 1927-28) Y Warden, Ben Bowen Thomas, ydyw'r athro. A dyma enwau'r myfyrwyr, gan ddechrau gyda'r myfyriwr sydd yn eistedd wrth law dde'r athro ac yn edrych i lawr ar ei lyfr, a chymryd y lleill yn eu trefn o amgylch y bwrdd, a gorffen gyda'r rhai sy'n eistedd â'u cefn neu eu hysgwydd at y camera. D. C. Morris (25 mlwydd), chwarelwr, Abergynolwyn. E. H. Jones (22), gweithiwr dur, Llansawel. J. L. Williams (22), glowr, Cwmllynfell, Cwmtawe. J. T. Lloyd (25), gweithiwr dur, Merthyr. E. H. Evans (22), glowr, Wrecsam. Frank Vale (26), glowr, Abercraf. J. B. Jones (31), glowr, Llwynypia. L. J. Cumming (18), siopwr, Penybont-ar-Ogwr. Y mae'r dwr sydd yn llifo o Fynydd Parys yn goch gan gopr. Yr oedd gweithiwr yn croesi'r Afon Goch un diwrnod, ac wedi edrych yn hiraethus ar y dwr dywedodd, Petasai dy flas-di gystal â dy liw-di, mi fuaswn i'n atal dy gerddediad-di am beth amser, beth bynnag." Cofiaf gyfarfod o Glwb Awen a Chân Caernarfon a gynhaliwyd i anrhydeddu Anthropos. Siaradodd y Parch. R. G. Roberts am arddull Anthropos a llenorion Cymraeg eraill, ac ynghwrs ei sylwadau dywedodd fod mwy o ddelw John Richard Green nag o ddelw'r Bardd Cwsg ar arddull O. M. Edwards." YR Ystorm. — Y mae darnau lluosog yma o'r farddoniaeth buraf, ac ni allaf ymatal rhag enwi un cwpled fel esiampl o allu Islwyn i agor y magic casements hynny y sonia Keats amdan- ynt Clyw gyffro'r gangen hon-aderyn du, Fel adgof, gynnau ar ei brig a fu. W. J. Grujfydd,fyn Y Llenor.