Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEN TSHÉCIA1D BOHEMIA GAN T. HUDSON-WILLIAMS (Ar ôl yr Ail Ryfel Mawr, daeth geneth ifanc o Tscheco- slofacia ar ymweliad â Phorthmadog, a gwahoddwyd hi i dreulio noswaith ar aelwyd fy merch. Pan soniodd ei bod yn dyfod o Fohemia, dywedais rywbeth am Smetana. Trodd ataf mewn syndod. Beth ?" gofynnodd, ydech chi'n gwybod am Smet- ana ? Wel, debyg iawn," atebais innau byddwn yn clywed ei fiwsig ar y radio beunydd. Mae-o'n un o gerddorion mawr Ewrop," ac enwais VUava a'r Bartered Bride. Fy hendaid oedd- o," ebr hithau. Yr oedd wedi rhyfeddu, ac wedi eá swyno, wrth feddwl ein bod ni yng Nghymru yn gwybod am Smetana a'i wlad (geneth ifanc ymhell iawn o'i chartref, cofiwch), a phan chwanegais ddywedyd bod gennym gyfrol o Ystor'iau Bohemia wedi eu cyfieithu i'r Gym- raeg gan un o athrawon ein Prifysgol, Dr T. H. Parry-Will- iams," yr oedd ei ffiol yn llawn. Ac yn awr dyma Dr Hudson-Williams i ail-ennyn ein diddor- deb yn llenyddiaeth y Tsheciaid. — d.t.) pAN oeddwn yn llencyn darllenais am ferthyrdod y Protestant John Hus yn y Coleg deuthum yn gyfarwydd â'r addysgwr enwog Comenius (Komensky) yn ddiweddarach bu cryn fynd ar weithiau'r brodyr Capek, ac yn enwedig eu drama Y Pryfed. Bu raid imi aros nes bod o fewn chwe mis i'm pedwar ugain cyn dysgu iaith y Tsheciaid, iaith Indo-Ewropeaidd o'r un cyff a'r Rwseg a'r Bwyleg, iaith ystwyth a llithrig, ag iddi saith o gyflyrau gesyd yr acen ar sillaf gyntaf pob gair. Cychwynna llên Pwyl gyda phenillion yn moli Mair; llên Wydd- eleg a Chymraeg ag esboniadau byrion ar ymyl tudalennau'r Testament Newydd neu'r clasuron a llên Bohemia gyda dwy lawys- grif. Yn 1817 cafwyd yn Königinhof ddarnau o bapur yn cynnwys chwech o faledi hanesyddol ac wyth o delynegion. Cynhyrfwyd Ewrop. Cyfieithodd Goethe hwy cyhoeddwyd trosiadau niferus yn Saesneg, Almaeneg, Pwyleg, Eidaleg ac amryw ieithoedd eraill. Bu cryn amau eu dilysrwydd astudiwyd hwy'n fanwl gan ysgol- heigion brodorol, gwelwyd bod ynddynt ffurfiau diweddar, a