Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MESUR AMSER PELL GAN H. N. SAVORY I Y mae'r archaeolegydd heddiw yn rhyw fath o hanesydd, a rhoddi ystyr eang iawn i'r gair hwnnw. Gwr ydyw sydd yn ymwneud yn bennaf ag agwedd arbennig ar hanes dyn-celfydd- ydau a chrefftau a bywyd beunyddiol hen gymdeithasau gynt-ac yn defnyddio dull arbennig, sef astudio gweddillion gwaith dwylo dyn, ac eithrio ysgrifeniadau, sydd wedi goroesi o'r amseroedd pell yn ôl. Fe gynnwys hyn gasglu'r cyfryw weddillion mewn amgueddfeydd, neu astudio yn y fan a'r lle adeiladau a chloddiau nad oes dim eisiau eu symud. Er bod llif cyson o wrthrychau a ddarganfuwyd ar ddamwain yn llifo i'n hamgueddfeydd, yn yd i felin yr archaeolegydd, bydd yn well 0 lawer ganddo ef gael hyd i'r defnyddiau hyn ei hun, drwy gloddio mewn hen gartrefleoedd a chladdfeydd, canys fe gaiff wybod yn sicrach yn y ffordd honno, wrth astudio hen wareiddiadau hir-angofiedig, pa weddillion a berthynai i gymdeithas arbennig mewn cyfnod arbennig, a pha beth oedd eu gwaith ym mywyd y gymdeithas. Wedi iddo unwaith gasglu ei ddefnyddiau, boent weddillion mewn amgueddfa neu gof- nodion am adeiladau, fe â'r archaeolegydd ati i'w dosbarthu a'u cymharu, i bennu eu lie yng nghwrs rhyw ddatblygiad, neu ym mywyd rhyw gymdeithas yr ail-luniwyd ei hanes ac i'w cysylltu, os bydd hynny'n bosibl, â thraddodiadau neu gofnodion ysgrifen- edig sydd ar gadw. Y mae'n amlwg na all astudiaeth fel hyn ddim mynd ymhell iawn heb ryw ddull o amseru, un ai gosod y defnyddiau i ddilyn ei gilydd mewn trefn arbennig-y peth a eilw archaeolegwyr yn amseriad perthnasol "-neu bennu eu hunion Ie mewn amser yn ôl rhif y blynyddoedd-y peth a elwir yn amseriad absoliwt." Caiff yr archaeolegydd a fo'n cloddio caerfa a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid yng Nghymru dros 1800 mlynedd yn ôl ddigonedd o arwyddion i ddyddio'n fanwl a sicr, oherwydd datguddio y bydd weddillion gwareiddiad llythrennog a chymhleth iawn, a adawodd ar ei ôl gofnodion mewn ysgrifen o'i weithgareddau yng Nghymru -arysgrifau cerfiedig ar feddfeini ac ar adeiladau cyhoeddus-ac a dalodd gyflogau ei filwyr mewn darnau arian y gellir eu dyddio