Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR INJAN DDYRNU GAN G. GERALLT DAVIES GANED Lewis Thomas oddeutu'r flwyddyn 1778, mewn amaeth- dy o'r enw Cae'r Ferch, ym mhlwyf Llangybi, a bu farw tua 1873, yn 95 mlwydd oed. Cefais ei hanes gan ei wYr, y diweddar Richard Lewis, Llanfairfechan, a oedd yn hogyn 14 mlwydd oed pan fu farw ei daid. Ymddengys fod Lewis Thomas yn fwy anturiaethus na'r cyff- redin yn y dyddiau hynny, pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn gartrefol, a heb deimlo llawer o awydd crwydro. Diamau mai'r gymwynas fwyaf a wnaeth â'i fro ydoedd dyfod â'r injan ddyrnu yno-y peiriant dyrnu cyntaf yn Sir Gaernarfon. A dyma'r stori sydd yn gefndir.i'r fentr honno. Pan dyfodd ei ddau fab i oedran y gallai ymddiried gwaith y ffarm iddynt, dechreuodd Lewis Thomas borthmona yn Eifionydd a Llyn. Ac er ei fod erbyn hynny yn tynnu at ei ganol oed, yr oedd rhyw ynni a mynd anghyffredin ynddo. Porthmon moch ydoedd, ac nid oes sôn iddo ddelio mewn na defaid na gwartheg na cheffylau. Wedi iddo gasglu ynghyd o 60 i 100 o foch, âi â hwy i Gae'r Ferch, a'r cam nesaf oedd ei hwylio i'r farchnad. Ac wrth gofio anaws- terau teithio yn y cyfnod hwnnw, y mae'n syndod meddwl bod ganddo ddigon o blwc i fynd â hwy yr holl ffordd i Lerpwl. Cychwynnai'r daith drwy gerdded y moch ei hun i Gaernarfon, tua 25 milltir o ffordd, a chan mai cerddwyr go araf yw tylwyth Gadara ar y gorau, cymerai oriau meithion i gyrraedd y porthladd ar lan Afon Saint. Ambell dro, pan na fyddai llong yn digwydd bod yn hwylus yng Nghaernarfon, byddai'n rhaid cerdded y gen- faint foch i Borthaethwy, a chyda lwc fe geid llong yno ar fin hwylio am Lerpwl. Arferai Lewis Thomas yn fynych, wedi cyrraedd adref, adrodd wrth ei gymdogion sut y byddai'r gwaith ar bontydd Menai yn mynd ymlaen. Byddai'r fordaith i Lerpwl yn ddigon diddigwydd pan fyddai'r hin yn deg, ond ar dywydd stormus gellir dychmygu'rmiri a'r stwr a'r rhochian a geid gan o leiaf gant o foch wedi eu dal â salwch y inôr. Ambell dro, hyd yn oed wedi cyrraedd Lerpwl, ni fyddai helyntion Lewis Thomas ar ben, oblegid os digwyddai bod llwyth o foch wedi glanio yr un pryd o Iwerddon ni chcâi'r hen borthmon o Lyn ddigon o bris hyd yn oed i'w ddigolledu ei-hun.