Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDORIAETH YN YSGOLION CYMRU GAN JOHN HUGHES, DOLGELLAU Cerddoriaeth yn Ysgolion Cymru. Adroddiad y Cyngor Canol ar Addysg (Cymru). Llundain Gwasg ei Mawrhydi. 2/6. yN 1952 gwahoddwyd y Cyngor uchod i wneud ymchwil i le'r celfyddydau yn ysgolion Cymru, a phenderfynwyd ystyried yn eu tro gerddoriaeth, y ddrama a'r celfyddydau cain a chym- hwysol. Dywaid Cadeirydd y Cyngor, A. Oldfield Davies, yn ei gyfiwyniad o'r Adroddiad i'r Gweinidog Addysg, mai prif amcan y datganiad hwn ar gerddoriaeth yw dangos y safonau y byddai'n ddymunol ymgyrraedd atynt ymhob ysgol Dywaid hefyd nad ydynt fel Cyngor yn honni eu bod" yn arbenigwyr mewn cerddor- iaeth ond eu bod yn cydnabod gwerth diwyUiannol dwfn a boddhaol cerddoriaeth a'r ddisgyblaeth a ddaw o'i hymarfer". Felly, sylwadau cyffredinol ar gyflwr cerddoriaeth yn yr ysgolion a geir yn yr Adroddiad, ynghyda phwyslais mynych ar yr hyn a dybia'r Cyngor y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl, a hyd y gwelaf i nid yw'r Cyngor yn disgwyl dim gormod. Gwahoddodd y Cyngor nifer o athrawon, trefnwyr cerdd ac eraill, i roddi tystiolaeth ger eu bron, ac ar sail y tystiolaethau hynny yn bennaf y lluniwyd yr Adroddiad hwn. Ar ddechrau'r Adroddiad ceir cipdrem ar gyflwr cerddoriaeth yn yr ysgolion tua 1936 pan deimlai Prif Arolygydd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg gryn bryder ynglyn â chyflwr cerddor- iaeth yn yr ysgolion elfennol, yn enwedig ar fater y dirywiad mewn gallu i ddarllen cerddoriaeth a phenderfynwyd, fel cam cyntaf, wneud arolwg o'r sefyllfa yn ysgolion nifer o Awdur- dodau er mwyn cael gwybod y ffeithiau Dilynwyd yr arolwg hwnnw gan Adroddiad a ddangosai fod cerddoriaeth mewn cyflwr pur anfoddhaol yn yr ysgolion. Y cam nesaf oedd i'r Bwrdd Addysg yn 1936 gyhoeddi Memorandwm Rhif 4-Awgrymiadau ar DdySgu Cerddoriaeth, a chyda llaw, y mae'r Memorandwm hwnnw yn llawlyfr campus ar bwrpas cerddoriaeth yr ysgolion, oherwydd cynhwysa gynllun-wersi rhagorol ar gyfer anghenion pob gradd o'r ysgol. Mewn gwirionedd, credaf y buasai'n fantais fawr i athrawon heddiw petai rhan o Memorandwm 4, neu'r cyfan ohono, wedi ei ail-gyhoeddi gyda'r adroddiad presennol, oherwydd y mae llawer o athrawon newydd yn yr ysgolion erbyn hyn a byddai'n