Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GA I R O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS A'R olaf a fyddant flaenaf." Felly gyda'r nodiadau hyn am y tro. Aduniad y myfyrwyr allanol a gynhaliwyd brynhawn Sadwrn, Ebrill 24, ym Mangor. Y Neuadd Bowys bron yn llawn, ac Edwin A. Owen, yr Is-Brifathro, yn y gadair yn estyn croeso cynnes i bawb, orid yn gofidio nad oedd y Prifathro ei hunan yno i'w croesawu fel arfer. Methu bod mewn dau Ie ar unwaith yr oedd y Prifathro. Serch hynny, yr oedd gennym brifathro arall ar y llwyfan, a phleser oedd rhoddi derbyniad brwd i Goronwy Rees, o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, ar ei ymweliad cyntaf â Choleg Bangor. Yr oedd yn bleser ei weled yno a'i glywed yn ein hannerch ar "Yr Athro a'r Disgybl Anerchiad amserol a buddiol yn gosod yn glir y berthynas rhwng athro a'i ddosbarth o bobl mewn oed, perthynas gwahanol i'r hyn a geir mewn ysgol neu goleg, ond tebyg i'r berthynas rhwng efrydwyr a'i gilydd. Siaradodd R. Alun Roberts mewn Cymraeg croyw, cartrefol, am astudio gwyddoniaeth mewn dosbarthiadau allanol. Pwysleis- iodd yr angen am ddosbarthiadau mewn gwyddoniaeth er ceisio lledaenu gwybodaeth am effeithiau gwyddoniaeth ar gymdeithas, a dylanwad darganfyddiadau gwyddonol ar broblemau ein hoes. Rhaid i'r ochr gymdeithasol i'n hastudiaethau ymdrechu'n ddi- baid i ddod yn hafal i'n cynnydd gwyddonol. Buasai'n odidog pe bai'r Athro wedi cael amser i roddi enghreifftiau o'rduUiauaddef- nyddiai ef mewn dosbarthiadau allanol; hwyrach y cawn hynny eto ganddo. Pleser oedd gallu ymweled â thros ddwsin o'n dosbarthiadau. Yn eu mysg yr oedd dosbarth Amlwch, un o'r rhai hynaf yng Ngogledd Cymru, ac ar y Haw arall ddosbarth Llanfor, ger y Bala, dosbarth newydd sbon eleni. Yr un naws yn y ddau, ond bod un yn fwy profiadol na'r llall. Ymwelais â phedwar arall o ddosbarth- iadau Môn­-Pentraetli, Gacrwen, Brynrefail a Llanddalliel- a mwynheais fy hun ynddynt i gyd. Y mae'n llawenydd ac yn anrhydedd cael cyfarfod ag aelodau'r dosbarthiadau a chymryd rhan yn y drafodaeth. Dosbarth Llithfaen yn trafod Plato yn ddeheuig iawn, Dinorwig yn trin Emynwyr Cymru, Llanfair- fechan yn ymdroi â Hanes Cymru, a Gwernymynydd yn llenydda, Penarlâg yn manylu ar Hanes Lleol a Rhuthun ar Gelfyddyd.