Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY Y MAE tymor dosbarthiadau'r gaeaf bron tynnu i ben, a chyn hir fe rydd Adroddiadau'r Canghennau inni ystadegau a phob gwybodaeth angenrheidiol arall, i roddi Adroddiad y Rhan- barth am y flwyddyn wrth ei gilydd. Trist ydyw meddwl ein bod wedi colli yn ddiweddar iawn ddau o gyfeillion nodedig y Mudiad yn Ne Cymru. Parodd marwolaeth Proffesor W. D. Thomas, mor sydyn a heb ei ddisgwyl, a hynny pan oedd yn ymyl ymddiswyddo, ysgytiad mawr i gylch eang ei gyfeillion. Yn ardal Abertawe y gwnaeth ef ei gyfraniad mwyaf at fudiad Addysg Rhai mewn Oed. Yr oedd y diweddar Broffesor Ernest Hughes yn fwy adnabydd- us ledled Cymru oherwydd ei gysylltiad maith ac agos â gwahanol fudiadau diwylliannol ynddi, megis yr Ysgol Sul, yr Eisteddfod, y Ddrama, y Brifysgol a'r WEA. Yr oedd ei gysylltiad â'r WEA yn mynd yn ôl i'r amser pan oedd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Bu am flynyddoedd yn aelod o Bwyllgor Gweithiol Rhanbarth y De, ac yn Is-Lywydd iddo. Peth addas iawn ydyw bod ei gyfraniad enfawr at fywyd a diwylliant Cymru yn cael ei gydnabod yn briodol, ac yr wyf yn falch o glywed bod apêl genedlaethol ar fin cael ei gwneud am sefydlu Cronfa Goffa Ernest Hughes Bwriedir defnyddio'r gronfa i waddoli Efrydydd- iaeth agored yn Hanes Cymru i Raddedigion, er mwyn cadw'n fyw y cof am ei wasanaeth hir a gwerthfawr i achos Addysg Rhai mewn Oed, gan gynnwys y WEA. Cyhoeddir yr apêl hon yn fuan, ac y mae'n sicr y caiff y gefnogaeth a haedda, nid yn unig gan fyfyr- wyr a ehyn.fyfyrwyr y Brifysgol, ond gan aelodau dosbarthiadau'r coleg a'r WEA hefyd. Cyfeiriais yn Rhifyn y Gwanwyn o LLEUFER at Adroddiad y WEA ar Addysg Undebau Llafur, a dywedais fod Rhanbarth Deheudir Cymru wedi gofyn am i ardal Port Talbot gael ei ystyried yn He addas i sefydlu ynddo un o'r tair Rhaglen Ddatblygu ar-