Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY UN o'r elfennau mwyaf boddhaol yn ein hanes ni yn ystod y tymor diwaethaf ydyw'r cynnydd yn y gyfathrach rhwng Coleg Harlech a Cholegau'r Brifysgol. Mae'r berthynas yn un amrywiol. 0 bryd i'w gilydd cawn y pleser o groesawu darlithwyr o wahanol adrannau'r colegau i Harlech i draethu ar destunau a gyfyd o'r meysydd arbennig trefnir dadleuon rhwng ein myfyrwyr ni a'r chwaer-gymdeithas yn y colegau ac erbyn hyn daeth yn arfer- iad i efrydwyr Coleg Harlech gyfnewid ymweliadau cymdeithasol â'u cymrodyr yn y Prifysgolion. I raddau helaeth, felly, gellir dweud bod Coleg Harlech wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod o gyfrin-gylch bywyd myfyrwyr Cymru. Nid bychan yw'r cyfoeth sy'n delio oddi wrth y gyfathrach hon, ac nid ein myfyrwyr ni yn unig, mi gredwn, sydd ar eu hennill Yn y cyswllt yma, un o'n ffrindiau mwyaf cyson ydyw Sidney Herbert, a fu am flynyddoedd yn ddarlithydd mewn Problemau Cydwladol yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Y tro yma, daeth yn nes adref, a'i destun oedd Senedd i Gymru Gwyr. pawb am ei ddiddordeb yn yr ymgyrch i gael Senedd Gymreig, a gellir llongyfarch y mudiad ar ennill ohono gefnogaeth siaradwyr a lwydda bob amser i drin eu pwnc mewn ffordd realistaidd ac ymarferol. A phwnc ydyw hwn sy'n aml yn cynhyrchu, ysywaeth, lawer mwy o wres na goleuni yn y trafodaethau arno. Cynrych- iolwyr eraill o Aberystwyth oedd Mr Harbury o'r Adran Econo- meg, a Ieuan John, yntau fel Sidney Herbert yn arbenigwr ar broblemau cydwladol. Problemau economig cyfoes oedd testun y naill, ac ar gwestiwn ail-arfogi'r Almaen y bu'r llall yn siarad. 0 Fangor daeth Huw Morris-Jones i ddarlithio ar Syr Henry Jones a'i gyfraniad at Ddinasyddiaeth ac fel yr oeddem yn disgwyl, fe gafwyd triniaeth ffres a gwreiddiol ar destun a apeliai yn gryf at ein myfyrwyr ni. Am y tro cyntaf, cawsom y pleser owrando ar Mr Lochhead o Goleg Caerdydd, lle mae yn brif- ddarlithydd yn adran y Gwyddorau Cymdeithasol. Gwasanaeth Cymdeithasol oedd ei destun ef, a brwd fu'r ymdrafod wedi iddo ef wneud ei ran. Yn wir, ein cyfrifoldeb ni ar achlysuron fel hyn yw sicrhau bod y darlithwyr yn cael cyfle i fynd i orffwys mewn amser rhesymol, oherwydd i lawr hyd oriau mân y bore