Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Rhyddiaith Gymraeg y Gyfrol gyntaf. Detholion o Lawysgrif- au 1488-1609. Golygwyd gan T. H. Parry-Williams. Gwasg y Brifysgol. 8/6. "y PETH gorau a allaf ei ddweud am y gyfrol hon yw mai y gyntaf o gyfres ydyw. Ar ôl darllen hon, yn sicr bydd croeso mawr i'r cyfrolau sydd i ddilyn. Na feddylied neb mai rhywddog- fennau sychion ar gyfer ysgolheigion yn unig sydd yma. Y mae hi'n bwysig i bob ysgolor o Gymro, bid siwr. Ond y mae hi'n ddi- ddorol hefyd i'r sawl sy'n hoff o ddarllen darnau difyr â'i draed ar y pentan ar noson o aeaf. Cynnwys y llyfr 35 o ddarnau ar destunau amrywiol iawn. Ceir darnau o'r Ysgrythur wedi eu cyfieithu cyn i'r Esgob Morgan gyflawni ei orchestwaith, hen chwedlau a choelion, homilïau a hanes merthyron, traethawd ar hwsmonaeth, storïau sy'n perthyn yn arbennig i Gymru, a storiau sy'n rhan o dreftadaeth gyffredin diwylliant Ewrop, hanes rhyfel fel hanes cymryd Tref Bwlen yn 1544, a Bucheddau Saint, darnau â sawr y beirdd arnynt a darnau â sawr y cyfarwydd neu'r storiwr a darnau â sawr y maes arnynt, boed hwnnw'n faes brwydr neu faes yr amaethwr. Cynnyrch y cyfnod yn union ar ôl y cyfnod Cymraeg Canol yw hwn, ac y mae'r casgliad sydd yma yn ddrych digon teg o fywyd Cymru yn y cyfnod hwnnw-yn ei gynnwys a'i iaith. O gofio'r traddodiad sydd o'r tu ôl iddo, y gogynfeirdd a'r cywyddwyr, y Mabinogi a dechrau cyfieithiadau cynnar o rannau o'r Beibl, gwelwn dwf naturiol yr iaith Gymraeg. Mewn ambell ddarn gwelir cruglwyth o ansoddeiriau cyfansawdd yn null yr hen feirdd, megis: V'ymddiriedgwbl gydymddaith ymgeleddgar, vy nirfawr orchymvn o dwymyneiddrwydd meddylvryd kalon yn garedigawl attoch, megis yr ymddail ffyddfrawd o eithafbell garedigrwydd ar y llall. Dro arall, iaith y storiwr sydd yma, megis Yn Rüvain gynt idd oedd amherawdr kadarn yn taring, yr hwn a elwid Delffinvs. Ag nid oedd yddoefvnplentyn ond vn verch deg a'i that a'i karai hi yn vawr. Ag val idd oedd yr amherawdr ddiwarnod yn hela yn y fforest, ef a hapiodd yddo ef varchogaeth allan o'i ffordd, a cholli i holl wyr.