Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teithiau Madoc, gan T. Madoc-Jones. Gwasg y Brython. 8 /6. Godre'r Berwyn, gan F. Wynn Jones. Hughes a'i Fab. 6/ Achwynir yn aml gan lyfrgellwyr ac eraill yng Nghymru am y diffyg mawr sydd yn ein llenyddiaeth o gyfrolau a apelia at y werin bobl-llyfrau o natur weddol ysgafn megis nofelau cyffrous, storïau detectif, bywgraffiadau poblogaidd, a llyfrau teithio â digonedd, os yn bosibl, 0 luniau da ynddynt. Hynny yw, yr angen mawr ydyw sicrhau cyflenwad o'r wasg o lyfrau a ddena'r dyn cyffredin i ddal i ddarllen yn iaith ei fam yn hytrach na throi at y lliaws llyfrau o amrywiol fathau a ddylifa allan o'r wasg Saesneg. Y mae Teithiau Madoc yn ymgais da i ateb y cwynion hyn. Cyfrol hardd yw hon a ddisgrifia fynych grwydradau'r awdur pan oedd yn gaplan yn yr Awyrlu, o Gymru i'r Dwyrain Canol, De Affrica, Môr y Canoldir ac Ewrop. Teithia, yn ei dro, mewn llong, trên, modur, awyren, bad awyr, ac-yn Ne Affrica-hyd yn oed mewn rickshaw-basged ar ddwy olwyn a dynnid gan Swlw. Ond ymhobman yr â y mae'n sylwedydd craff, ac nid anghofia am gefndir hanesyddol y lleoedd yr ymwêl â hwynt. Ysgrifennwyd y llyfr yn hynod ddiddorol a byw, ac nid yw'r bywiogrwydd hwn i'w ganfod yn unman yn well nag yn ei ddisgrif- iadau effeithiol o'r gwahanol bethau a'i trawodd ar ei deithiau. Enghraifft o hyn yw ei ddisgrifiad o'r profiad annifyr o gladdu un o fechgyn y fyddin yn y môr ar ei ffordd allan i'r Aifft yn ystod y rhyfel diwaethaf, neu'r olygfa liwgar o edrych yn ôl ar Fae Naples yn yr Eidal. Hwyrach mai un o nodweddion amlycaf y gyfrol, fodd bynnag, yw'r hiwmor iach a geir drwyddo, megis pan ddisgrifia fywyd hamddenol a di-stWr trigolion Gibraltar Ni welid arwyddion brys ar neb, yn ddyn nac anifail. Mewn un stryd gwelais fuwch a'i perchennog yn ei godro 0 ddrws i ddrws-ffordd hawdd i gwtogi costau cynhyrchu Neu'r disgrifiad o'r gorlwytho sydd ar drenau yn yr Aifft Llawer gwaith y gwelwyd trên yn gadael yr orsaf a llawn cymaint o bobl ar ei do ac yn hongian wrtho ag a oedd oddi mewn iddo Nid rhyfedd fod ambell ben i'w gaelar y rheil- iau wedi colli ei gorff anghofio a wnaeth rhywun fod pontydd y bydd yn rhaid i'r trên fynd odanynt. Ewyllys Allah ydoedd hynny hefyd