Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn hytrach Cyfarfod Cystadleuol fel y gelwid ef yn Llandrillo. Eithr diddorol iawn fyddai cael gwybod pa fath o gerddoriaeth gystadleuol a genid gan gorau ac unawdwyr yr adeg honno ai rhygnu ar yr un darnau a wnaent yn Llandrillo fel ymhobman arall yng Nghymru ? Yn wyneb y gwyn gyfoes ar y mater hwn, purion peth fuasai i'r awdur ymhelaethu ar hyn, a chynnwys hefyd enwau ambell un o'r beirniaid a wasanaethodd yn yr Eis- teddfod leol-fel y gwnaeth efo'r pregethwyr mewn pennod flaenorol. Chwythodd Diwygiad Evan Roberts fel rhyferthwy dros ardal Llandrillo, a gadawodd ei ôl ar blant yn ogystal ag ar bobl mewn oed. Cawn storiau doniol am yr adeg yma yn hanes yr ardal, ond gan mai plentyn ifanc ydoedd yr awdur ar y pryd nid yw mewn safle i farnu gwerth y diwygiad. Yn sicr, fodd bynnag, bu'r sylfaen grefyddol gadarn a gafodd brodorion y fro yn gymorth nid bychan i feithrin dynion a merched o gymeriad eithr ni ellir llai na theimlo mai undonog braidd oedd eu bywyd. Ceid, efallai, bwyslais gormodol ar grefydd, ac nid oes dim sy'n swnio'n fwy anniddorol, i'r oes hon o leiaf, na darllen am yr adroddiad gor- fanwl a roddid bob dau fis gan yr Ysgrifennydd i'r Ysgol Sul— fel y disgrifiwyd hi gan yr awdur yn ei bennod, Crefydd a Chap- el." Cyfrol i'w thrysori yw hon, gyda'i Chymraeg hyfryd a'i har- graffwaith glân a destlus. Weithiau, fodd bynnag, gellid rhannu paragraffau yn well nag a wneir. Yr unig gwyn ynglŷn â'r lluniau yw bod rhy ychydig ohonynt, eithr, chwarae teg i'r cyhoeddwyr, haerllugrwydd yw dweud hyn hefyd, oherwydd y mae'r llyfr eisoes yn rhad iawn am y chweswllt a ofynnir amdano. T. ELWYN GRIFFITHS Caneuon, gan Gwilym R. Jones, Gwasg Gee. 5 Darnau Diddan, gan John O. John. Gwasg y Brython. 3/6. Gwlad ddwyieithog yw Cymru, ac y mae hynny wedi dylan- wadu ar ein ffordd o fyw, ac yn wir ar ein ffordd o feddwl. Rhaid talu'n ddrud am y fraint o fod yn ddwyieithog. Y mae gan y person dwyieithog ddau fyd y gall droi iddynt, ac i bob byd ei briod iaith a'i safon. Y mae ceisio bod yn deyrngar i'r ddau fyd yn waith anodd a chostus, ac yn y diwedd yn gamp y cawn ei bod yn amhosibl ei chyflawni. Ond pam yr wyf yn sôn am bwnc fel yma wrth geisio adolygu cyfrol o farddoniaeth Gymraeg ? Wel, nid