Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

edd a'r pedwar mesur ar hugain, a thrwy hynny adfywio dull a chanonau barddoniaeth nad oes a fynnont ddim â bywyd cyfoes. Y mae'n drueni na fyddai'r gynghanedd farw. Byddai gobaith iddi yn ymddatod y farwolaeth honno. Y paradox rhyfeddaf yw mai bardd o Sais, Gerard Manley Hopkins, a wnaeth y defnydd gorau o'r gynghanedd. Ond testun traethawd yw hwn, ac nid deu- nydd adolygiad byr. Nid oes neb a wad ddawn Mr Jones gyda'r cynganeddion, yn enwedig yn ei gerddi coffa, fel yr englyn hwn i gyfaill ifanc a fu farw Henaint ni welodd mono,­ni fu ias Ei fysedd oer arno Ond gelyn dyn er cyn co' Â'i law oer fu'n ei lorio. (Efallai bod defnyddio'r un ansoddair ddwywaith i'w feio, ond eto gellir gwneud dadl gref drosto hefyd). Ond gyda'r gynghanedd, ni all y gorau o feirdd osgoi'r hen drawiadau mae'n rhan o wendid y gyfundrefn. Rhannant yr hen gyfrinach Tu draw i hedd y bedd bach. Un o hanfodion llwyddiant bardd yw ei allu i greu rhuthm sy'n perthyn iddo ef ei hun, ac iddo ef ei hun yn unig. Wedi iddo ef greu'r rhuthm hwn fe ddaw'r beirdd llai i'w ddynwared a'i ail- adrodd. Y mae'r rhuthm personol hwn yn beth prin iawn, ac nid ar chwarae bach y daw'r bardd o hyd iddo. Perygl Gwilym R. Jones ydyw iddo fodloni'n rhy aml ar ddefnyddio rhuthmau ail- law. Nid dyna a wnaeth yn y paragraff a ddyfynnais eisoes, ond y mae rhy ychydig ohonynt yn y gyfrol hon, a gormod o fesurau salm a mesurau'r salmau. Amheuaf werth dynwared cyfoch- redd y salmau. Y mae'n waith rhy hawdd o lawer, ac yn arbed chwysu i greu rhuthm personol. Ond dyma fi'n dal ati i siarad yn gyffredinol, ond mewn gwir- ionedd clod i gyfrol Mr Jones yw ei bod yn codi'r cwestiynau hyn o gwbl. Y mae llawer darn wedi'i farcio gennyf i'w drafod. I'r neb a fynno barhau'r ddadl y ceisiais i ei chynnig uchod, cymhared y ddwy gerdd Cyffes y Lodes Wledig a Y Rhai na Buont i weld y modd y mae un yn llawn o hoywder iaith lafar, a rhuth- mau sy'n rhan o'r sylwedd, ac nid yn rhywbeth ar wahân, a'r llall yn syrthio i fagl rhethreg salmaidd a diystyr. Y mae'r gyfrol