Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hon yn werth i fardd ifanc wrth ei grefft ei myfyrio'n ofalus. Y mae ynddi wersi buddiol i'r neb a ymdraffertho i'w dysgu. Yr anffawd yng Nghymru yw bod y frwydr farddol wedi'i hymladd o gwmpas allanolion. Y mae gennym ormod o barch o lawer at fesurau. Barddoniaeth sy'n bwysig. Casgliad o ysgrifau a cherddi ysgafn yw Darnau Diddan. Nid da gen i mo'r ysgrif fel ffurf lenyddol. Efallai mai dyna sydd o le arni-ei bod hi'n llenyddol, neu yn aml iawn yn llen- yddlyd. Ond i'r neb sy'n hofn'r math yma o ddiddanwch, 'rwy'n sicr y bydd yn dda ganddo gael gafael ar y gyfrol fechan hon. Ond amdanaf fy hun teimlaf fel Mr John ei hun wrth gloi un o'i ysgrifau Bobol bach i ba beth y bu y golled hon ?" Ac nid beirniadaeth ar Mr John aolygir, ond beirniadaeth yn hytrach ar sefydliad fel yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n mynnu bod yn geid- wad amgueddfa ffurfiau llenyddol marw, a denu pobl o ddawn Mr John i ymdrafferthu gydag ysgrifennu mor ddibwrpas. ANEIRIN TALFAN DAVIES Brut y Tywysogion darlith gan Thomas Jones. Gwasg y Brifysgol. 2/6. Dyma'r ddarlith a draddododd Thomas Jones wrth ymgymryd â'i swydd newydd yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, fis Tachwedd 1952, a darlith wych ydyw. Y rhyfeddod mwyaf gennyf i ydoedd pa fodd y gallai roddi cymaint o wybodaeth mewn un ddarlith. Mae'r Deheuwyr, wrth gwrs, yn siarad yn gyflymach na'r Gogleddwyr, ond hyd yn oed felly Fel y dywaid yr Athro, yr hyn a geir, yn y llyfryn hwn ydyw crynodeb o'r gwaith y bu yn ymhel ag ef ers rhyw dair blynedd, ac sy'n debyg o'i gadw'n brysur am ychydig o flynyddoedd eto sef archwilio a golygu gwahanol fersiynau y Cronicl o'r Canol Oesoedd a elwir Brut y Tywysogion. Cefais y fraint, dro'n ôl, o sylwi ar argraffiad yr Athro o fersiwn Peniarth 20 o'r Brut (LLEUFER, Hydref 1953), ac felly nid ymhel- aethaf yma. Y cyfan a ddywedaf ydyw bod y ddarlith hon yn rhagymadrodd rhagorol i astudiaeth o'r Brut, ac y dylid ei darllen gan bawb sydd am geisio deall a defnyddio ffynonellau ein hanes yn yr Oesoedd Tywyll a'r Oesoedd Canol. FRANK PRICE JONES