Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ond rai gweithiau bydd yn tueddu i fod yn llafurus, megis wrth sôn am ddefnyddio mochyn fel seiren, neu gorn rhybudd ar adeg rhyfel. Rhan bwysig o effeithiolrwydd y math hwn o sgrifennu ydyw ehangder angenrheidiol ei faes. Mae'r fferm a'r anifeiliaid o bosibl yn tueddu i gyfyngu ar yr awdur, a diau mai dyna'r rhes- wm fod rhai pethau fel gwneud mochyn yn gorn rhybudd yn peidio â tharo deuddeg. Modd bynnag, mae'r gor-ddweud a'r holl glyfrwch ffraeth ynglvn ag ef yn dra doniol. Ond er mwyn rhoi unoliaeth i'r gwaith rhaid oedd cyfuno'r ddwy elfen hyn, ac i'r diben hwn mae'r cyfyngu i faes arbennig y fferm a'r anifeiliaid wedi bod yn anfantais. Teimlir rywfodd nad yw'r dychan yn cael chwarae teg bob amser, ac y mae hyn yn gryn flinder pan deimla dyn fod yma y fath ddawn i ddychanu godidog. Mae'r cyfuniad o or-ddweud a dychan yn un cydna- byddedig mewn llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg o leiaf, ac mewn ieithoedd eraill mae'n debyg, ond yn gyffredin nid fferm gyda'i chyfyngiadau arbennig ydyw'r cefndir, ond gwlad, ynys neu fyd dychmygol. Buasai'r cymeriadau yn wirioneddol ddiddorol ar ryw gefndir mawr eang fel hyn, a gobeithio y ceir hwy a rhai eraill yn fuan. Mae iaith y llyfr yn ddiddorol, oherwydd ei ehreu i'r diben arbennig y defnyddir hi. Lle buasai aml i air gwneud yn chwithig ac anystwyth, yma maent yn llyfn ac esmwyth. Rhan o hyn ydyw'r Cymreigio sydd yn effeithiol hefyd. Modd bynnag, mae'r Fuwch a'i Chynffon yn arbrawf diddorol mewn un peth arbennig, sef ceisio sgrifennu rhywbeth yn Gymraeg, nid i ddiwyllio yn arbennig nac i addysgu nac i wneud cyfraniad at gorff llenyddiaeth y genedl, ond yn bennaf oll i bobl ei ddar- llen, ei fwynhau a chwerthin am ei ben. Er bod hyn yn anghytuno â'r awdur ei hun yn ei ragymadrodd, yn fy myw ni allaf beidio â theimlo bod yr arbrawf yn debyg o fod yn llwyddiant mawr, ac y bydd y fuwch fyfyrgar ar y siaced lwch yn aros yng nghof pobl pan fydd dalennau'r llyfr wedi hen adael eu cynefin ansicr rhwng y cloriau.