Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Celfyddyd. Serch, Rhan ii, gan T. Trefor Jones. Gwasg y Bala. 2/ Parhad yw'r llyfryn hwn o'r hyn yr ymdrinir ag ef yn y llyfryn cyntaf o dan y teitl, Gwyddor Serch. Ei bwnc arbennig yw paratoad cariadon ar gyfer eu priodas a'r bywyd priodasol ei hun. Dau ordinhad, neu sacrament, a arddelir gan Brotestaniaid, a chan y Pabyddion saith, yn cynnwys priodas. Ni buaswn yn amharod iawn i dderbyn priodas yn ordinhad Protestannaiddhefyd. Ni allaf byth edrych ar ferch ieuanc yn dyfod i lawr llwybr y capel i'w chysylltu ei hun mewn glân briodas â'r mab sydd yno'n disgwyl amdani heb fod deigryn swil yn llithro i'm llygaid, oher- wydd cysegredigrwydd llethol y peth. Megis y mae'r bara a'r gwin yn gyfryngau i'm dwyn wyneb yn wyneb ag angau'r Groes, daw'r uniad hwn â mi wyneb yn wyneb â phriodas Crist a'i Eglwys -` megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti. fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo'i hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw." Gan hynny syniaf nad oes dim mwy dirmygus na'r siarad awgrymog-ddichwaeth a geir yn aml wrth fwrdd y wledd briodas, a ystyrir yn ddigrifwch gan rai a ddylai wybod yn well. Yn yr awyrgylch hwn yr ysgrifennir y llyfryn. Pe darllenid ef a myfyrio arno gan gariadon Cymru, nid yn unig byddai eu bywyd priodasol yn ddedwyddach, ond yn santeiddiach hefyd. Gallai eglwysi wneud gwaeth gwaith na rhoddi'r llyfryn yn anrheg i bobl ieuainc ar eu priodas, yn ogystal â rhoddi copi o'r Beibl iddynt. Fy nghwyn yn erbyn y llyfryn cyntaf oedd nad oedd yr iaith mor seml ag y gallai fod. Y mae iaith y llyfryn hwn yn symlach, er y teimlaf fod eto Ie i wella. E. TEGLA DAVIES