Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR Cyf. X UN o'r blynyddoedd diweddar yma, mi ddarllenais lyfr a gododd fy nghalon yn fawr iawn. A Man called White oedd ei deitl, a Walter White yw enw'r awdur. Negro ydyw Walter White, ond y mae ei groen mor wyn fel y gallai gefnu ar ei gyd- negroaid a chymryd arno fod yn ddyn gwyn petai'n dymuno gwneud hynny. Ond ni all ddymuno peth felly, o achos negro ydyw yn ei galon. Ef ydyw arweinydd y bobl dduon yn yr Unol Daleithiau, yn ei swydd yn ysgrifennydd yr NAACP, sef y National Association for the Advancement of Coloured People (Cymdeithas Genedlaethol Cynnydd y Bobl Dduon). Bu gennyf ddiddordeb mawr yn hynt y bobl dduon am y rhan fwyaf o'm hoes. Y dechrau, y mae'n debyg, oedd darllen llyfrau Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom's Cabin a Dred, ac wedi hynny A Key to Uncle Tom's Cabin. Oherwydd llofruddio Abraham Lincoln ar ddiwedd y Rhyfel Cartref a ymladdwyd i ffrAvyno'r gaethfasnach, a cholli ei arweiniad doeth ef, isel iawn fu cyflwr y negroaid yn Nhaleithiau'r De ar ôl eu rhyddhau o'u caethiwed. Yn erbyn eu hewyllys y gollyngodd caethfeistriaid y De eu caeth- weision yn rhydd, ac yr oeddynt yn benderfynol o'u cadw yn gaethion ymhopeth ond mewn enw. Ni chai eu plant fynd i'r un ysgol â phlant gwynion, ni chaent hwythau fynd i'r un gwesty â phobl wynion, nac eistedd yn yr un cerbyd mewn trên. Peth a ddigwyddai'n fynych ar un adeg oedd lynsho dyn du a ddan- gosai ronyn o ysbryd annibynnol, gan dyrfa wallgof o bobl wynion- ei grogi neu ei saethu, ac yn ddigon aml ei losgi i farwolaeth. Yr oedd Llywodraeth y wlad un ai'n ddiallu neu'n anewyllysgar i atal y barbareidd-dra hwn. Cafodd Walter White ei hun brofiad o hyn pan oedd yn blentyn. LLEUFER YNG NOHYMRU HYDREF 1954 NODIADAU'R GOLYGYDD Rhif 3