Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR XV.­ATGOFION GAN MANSEL GRENFELL A DDEWAIS ysgrifennu rhywbeth i LLEUFER am fy atgofion ynglýn â'r WEA cyn ystyried y gallai fod yn anodd imi benderfynu ymhle y byddai orau imi ddechrau ac yn awr, wrth fynd ati, caf fy hun yn synnu nad oes gennyf ddim sy'n ddigon pendant i'w alw'n atgof am y WEA cyn 1927 (ac nad yw hwnnw'n union am y WEA), ac ar yr un pryd yn rhyw feddwl bod yn rhaid fy mod ymhell cyn hynny wedi gweld a chlywed ei henwi, ond heb wybod beth a olygai. Clywswn am y Central Labour College er yn gynnar yn yr undegau, trwy ddyn ifanc (o haniad Cymreig ond a aned yng Nghaerhirfryn) a aeth i Goleg Ruskin, ac a oedd yn un o'r myfyr- wyr a aeth allan oddi yno gyda'r Prifathro Dennis Hird i sefydlu'r Coleg Llafur Canolog, yn 1909. Wedi iddo orfl'en ei dymor yno daeth i Gorseinon i fyw, a bu yno'n gweithio mewn melin blatiau tùn, ac yn ei amser rhydd yn rhannu ei wybodaeth, ac yn brysur gyda'r undebau llafur a'r ILP, a mudiadau eraill tebyg hyd 1917. Cefais lawer o'i gwmni yn ystod y blynyddoedd hynny. Yr oedd yn hyddysg yn athrawiaethau Karl Marx ac Avedi ei drwytho ynddynt, ac yr oedd yn siaradwr effeithiol ar bynciau fel The Materialistic Interpretation of History, The Labour Theory of Value, Evolution-from Amoeba to Man, a phethau eraill arswydus fel yna, a'm syfrdanai i. Siaradai hefyd ar gwestiwn addysg i weithwyr. Ni chofiaf amdano'n sôn yn uniongyrchol am y WEA fel y cyfryw, ond cofiaf ef yn beirniadu'r prifysgolion yn ddirmygus, a'u galw'n sefydliadau ac yn offerynnau'r bourgeoisie a'r arianwyr a pherchenogion mawr o bob math. Ni ddeallwn mo hanner yr hyn a lefarai, ac ni chytunwn â chymaint â hynny­yn enwedig â'i syniadau am ddyn fel rhyw greadur materol neu economig, ac ar amcan a swyddogaeth addysg. Ac eto teimlwn fod llawer o'r hyn a ddywedai yn fwy perthnasol i'n problemau ni fel gweithwyr cyffredin na llawer o syniadau a dderbynnid yn ein plith, a thueddwn i gytuno â'i ddadl dros addysg annibynnol i weithwyr, yn hytrach nag