Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1931 cefais fy newis yn drefnydd y WEA yng Ngorllewin Cymru. Gwelaf fod yn rhaid imi derfynu yn awr, heb ddechrau dweud dim am fy mherthynas uniongyrchol â'r WEA. Sôn ychydig am droeon yr yrfa cyn dechrau gweithio drosti fy hun ydyw'r cwbl a wneuthum. Carwn fod wedi gallu sôn am lawer o gyfeillion a chydweithwyr caredig a chymwynasgar a gefais yn y gwaith, ond nid oes nac amser na gofod i hynny. Gobeithio na fydd yr hyn a ddywedwyd yn hollol anniddorol na di-werth. Y mae ei baratoi, er iddo olygu tipyn o ymbal- falu trwy fieri'r cof," wedi bod yn foddion i mi i ystyried o'r newydd rai pethau pwysig, mi gredaf, y mae perygl i ni heddiw eu hanghofio, neu eu hanwybyddu, sef, Mai cymdeithas addysg i weithwyr yn bennaf y bwriadwyd i'r WEA fod a bod y gymdeithas honno'n gofyn am aelodau byw i'w hegwyddorion a'i hamcanion, i weithio drosti ac i ofalu am ei safonau a'i rhyddid—mewn canghennau drwy'r wlad, yn ogystal ag yn y dosbarthiadau. Faint o ddramâu Shakespeare a gyfieithwyd i'r Gymraeg, tybed ? Dyma restr o saith ohonynt, ac enwau'r cyfieithwyr Wedi eu cyhoeddi: Hamlet (D. Griffiths (Clwydfardd), yn Yr Eisteddfod, 1866) Macbeth (T. Gwynn Jones, 1916). Heb eu cyhoeddi Richard II (Ioan Pedr, Cwrt Mawr MS 844C, yn y Llyfrgell Genedlaethol) As you like it (Cadvan, Bangor M8 42) King Lear (y Parch. O. R. Jones, fwlllieli, yn Eisteddfod Genedlaethol 1884, a thrachefn W. J. Gruffydd, yn ddiweddar) The Merchant of Venice a Twelfth Night (J. T. Jones, Porthmadog). Y mae argraff ddofn ar fy meddwl fod Rhuddwawr neu rywun wedi cyfieithu Julius Caesar, a byddai'n dda gennyf gael mwy o wybodaeth am y cyfieithiad hwnnw. A wyr rhywun o ddar- llenwyr LLEUFER am ragor na hyn ?