Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAVID DALE A NEW LANARK GAN R. O. ROBERTS "yN 1799 priododd Robert Owen y Dre Newydd, ac yntau erbyn hynny er yn ifanc yn ddyn busnes pwysig ym Manceinion, â Caroline, merch David Dale. Yr oedd David Dale yn un o fas- nachwyr mwyaf Glasgow a'r cyffiniau ar y pryd. Ganddo ef y prynodd y cwmni yr oedd Robert Owen ynglŷn ag ef ffatri New Lanark, ac yn New Lanark wrth gwrs y daeth Robert Owen i amlygrwydd mawr oherwydd ei arbrofion cymdeithasol. Eithr am David Dale a'i waith dyngarol yn yr Alban y bydd y nodyn hwn. Daethpwyd i gredu fwyfwy fod Robert Owen dan ddyl- anwad Dale ac mai datblygu gwaith ei dad-ynghyfraith a wnaeth yn New Lanark. Ganed David Dale yn 1739. Gweithiodd am gyfnod fel bugail ac yna fe'i prentisiwyd i'r fasnach lieiniau yn Paisley. Yn 1763 cychwynnodd fusnes mewnforio, mewnforio edafedd i ddechrau, a bu cynnydd mawr y diwydiant cotwm yn gyfle gwych iddo. Adeiladodd ef a Richard Arkwright felinau New Lanark i nyddu cotwm. Cychwynnwyd, yn 1784 y mae'n debyg, drwy nyddu â'r water frames a ddatblygodd Arkwright, ond yn ddiweddarach defnyddid y mules. Ymwahanodd Dale ac Arkwright cyn hir. Yn 1783 penodwyd Dale i fod yn gyd-gyfarwyddwr cangen Glasgow o'r Royal Bank of Scotland-ac yn arbennig oherwydd ei onestrwydd a'i lwyddiant yn y swydd honno y ceir erthygl ddi- ddorol amdano yn y Three Banhs Review, Mehefin 1952. Adroddir iddo gyfrannu £ 50,000 mewn cymorthau i wahanol achosion da. Llafuriodd dros y Feibl Gymdeithas. Gwaith Dale yn New Lanark a'i gysylltiad â Robert Owen, y mae'n debyg, sydd fwyaf diddorol i Gymry. Dywaid yr erthygl yn y Three Banks Review fod plant o'r tlotai yn gorfod gweithio yn New Lanark yn amser Dale am dair-awr-ar-ddeg y dydd ac eithrio awr a hanner o amser bwyta." (Cofier y bu i Robert Owen hyrwyddo pasio Deddfau Ffatrïoedd i leihau oriau gwaith plant yn nechrau'r ganrif ddiwaethaf). Er hired yr oriau hyn dywedir bod amodau gwaith yn New Lanark yn ddyngarol iawn yn ôl safonau'r cyfnod. Yn ystod deng mlynedd cyntaf y melinau dirprwyodd Dale i eraill y gwaith o'u cyfarwyddo, ac anaml yr ymwelai â'r 11e, ond bu ei ddylanwad yn drwm a dyrchafol arno.