Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

adeiladodd ffyrm gopr Robert Morris, Treforus, dai tenement y Castell, GlandAÂr, ac yr oedd ffyrmiau rhannol-Gymreig Parys a Stanley yn rhoi gwasanaeth meddyg am ddim i'w gweithwyr yn St Helens (ac efallai bod cwmni Parys yn gwneuthur hynny yn Amlwch a Chwm Tawe hefyd). Rhoesant glwb cymdeithasol â phapurau newydd ynddo i'w gweithwyr yn St Helens, a hyr- wyddasant y clybiau a sefydlwyd gan y gweithwyr i yswirio rhag effeithiau afiechyd a chostau claddu. Yr oedd wrth gwrs yn anodd i ddiwydianwyr cyfnod y Chwyldro Diwydiannol benderfynu defnyddio arian ac adnoddau i wella cyflwr byw gweithwyr a'u teuluoedd tra oedd cymaint o gyfle i adeiladu peiriannau a moddion cynhyrchu proffidiol eraill. Ond penderfynu felly a wnaeth dynion fel Dale yn y ddeunawfed ganrif, a dug Robert Owen ac eraill ygwaith ymlaen yn y ganrif ddi- waethaf. Ceisiodd Robert Owen ddangos hefyd fod gwella safon byw y gweithwyr yn rhwym o chwyddo cynnyrch y weithfa. Y mae'n wybyddus iawn erbyn hyn y gellir felly godi cynhyrch- aeth gweithwyr, yn enwedig pan fo'r safon byw yn isel iawn cyn i'r gwelliannau gael eu cychwyn. (NODIAD.-Yng Nghernyw gelwid y rhai a fuddsoddai ac a gyfarwyddai fwyngloddiau copr a thùn yn gapteiniaid," er na buont erioed yn gweithio ar y môr. Bu'r un peth yn wir yng Ngogledd Cymru-yn Sir Fflint, er enghraifft. Cofier am Gapten Trefor yn Enoc Huiüs Daniel Owen. Mae'n ddiddorol hefyd ganfod bod y Cernywiaid yn sôn am saethu cerrig-" shooting rock — yn y ddeunawfed ganrif (gw. W. Pryce Mineralogia Cornubiensis, 1778), yn union fel y gwneir yn chwareli Cymru heddiw. Yr oedd yr athro'n rhoi gwers i'w ddosbarth mewn addysg grefyddol. Gofynnodd un o'r bechgyn iddo am enwau'r Saith Bechod Marwol, ac fe'u rhoes iddo. Yn ddiweddarach ar y dydd, yr oedd y bachgen hwnnw'n edrych o'i gwmpas, ac yn ddisylw o'i wers. Galwodd yr athro arno yn chwyrn wrth ei enw. Roeddech-chi'n fy holi-i gynnau," meddai, am y Saith Bechod Marwol. Allwch-chi gofio enw un ohonyn-nhw ? "Gallaf, syr," ebe'r bachgen. "DigofaiÌit." — O'r Manchester Guardian.